Os ymwelwch ag Awstralia mae'n siŵr y cewch gyfle i aros yng nghyffiniau Parc Cenedlaethol Uluru-Kata Tjuta sydd rhyw 1 km o graig anferth ULURU (Craig Ayers). Cawsom ni noson mewn gwesty cyfforddus yn Yulam a phrofiadau dymunol gan gynnwys barbeciw hwyrol allan yn yr anialwch dan olau canhwyllau. Y golau'n diffodd i dywyllwch dudew a thawelwch perffaith. Sêr yn llenwi ffurfafen y De. Llais seryddwr gwybodus yn disgrifio'r patrymau serennog, a llewyrch ei lamp fel pe bai'n cyrraedd i fyny atynt. Gelwid y digwyddiad yn gyfIe i wrando ar Sŵn Tawelwch. Ymhen tair awr wedyn aethom i weld y graig a'i lliw yn newid droen ar godiad haul tua 5.30am. Profiad arall dymunol iawn oedd cael ein harwain ar daith natur am ddwy awr gan ŵr a gwraig o'r llwyth Anangu. Cerdded o'r ganolfan hyd lwybrau pridd cochlyd, dan wres tanbaid ac yng nghwmni degau o bryfed pryfoclyd ac aros mewn pedwar llecyn gweddol gysgodol.
Roedd yn gyd-ddigwyddiad diddorol i mi gan mai Alwyn oedd enw'r Aborigini, ac roedd ganddo, fel y broliodd wedyn, bedair gwraig. Cawsom daith hynod ddiddorol a'r gŵr a'r gwraig yn disgrifio yn yr iaith Anangu, gyda chyfieithydd ar y pryd yn eu cynorthwyo, sut oeddent yn gwneud defnydd ymarferol o adnoddau prin yr anialdir a pharatoi prydau bwyd o Iysiau a llwyni'r fro. Pan ddywedais mai Alwyn oeddwn innau hefyd, cefais gario ei waywffon am weddill y daith.
Dysgais mai (jina) ydi troed a (mala) ydi llaw yn iaith yr Anangu. Bu ar un amser 250 o wahanol ieithoedd yn Awstralia ac i'r rheiny 700 o dafodieithoedd, ond yn dilyn dylanwad Ewropeaidd gwelwyd dirywiad ieithyddol, a rhyw 30 o'r ieithoedd gwreiddiol a siaredir erbyn hyn, ac addysg gan rieni i'w plant.
"Dwi wedi rhyfeddu" ebe fi, a phan ofynais am gyfieithiad, ebe'r Alwyn arall "I bin lukkwesjinmak" Gobeithio ei fod yn gyfieithiad parchus! Os ydych yn deall yr iaith gadewch i mi wybod.
Pan ddaethom yn ôl i'r bws gofynnodd ein tywysydd i mi ddiolch i Alwyn a'i wraig yn Gymraeg. Gwnes hynny, ac ychwanegu os byth y deuai ef a'i wragedd i Gymru cant aros hefo ni. Edrychai'r ddau braidd yn rhy awyddus, a'n Mair i, braidd yn betrusgar.
Er bod 230,000 o Aboriginiaid yn Awstralia ychydig iawn o'r brodorion a welsom yn ystod ein tair wythnos o deithio yn y wlad anferth hyfryd hon heblaw am un ar ochr y pafin yn chwarae'r Dijiridw ac arddangosfa o'u dawnsiau bradorol mewn canolfan ddiwylliannol. Cawsom wersi tafIu bwmerang a gwaywffyn hefyd.
Roedd hwn yn wyliau mor llawn gan i ni ymweld â chymaint o lefydd, megis Melbourne, Canberra, Sydney, Cairns, Uluru a Perth, a chael profiadau cofiadwy ar y Great Barrier Reef, a choedwigoedd Trofannol a llawer mwy, ond gadawaf i eraill sôn am hynny.