BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Fama
Murlun cymunedol OakenholtMurlun cymunedol Oakenholt
Gorffennaf 2009
Bu disgyblion Ysgol Croes Atti a thrigolion Oakenholt yn gweithio gydag artist i greu murlun lliwgar.

Daeth cyfle gwych gerbron disgyblion Ysgol Croes Atti a thrigolion Oakenholt wrth iddynt gydweithio gyda'r artist Cefyn Burgess i greu murlun cymunedol (prosiect diweddaraf Menter Iaith Sir y Fflint). Mae'r murlun yn adlewyrchiad o'r fro ac yn llawn o nodweddion hanesyddol a modern tref Y Fflint. Y canlyniad pwysicaf i Cefyn, yw bod y gwaith gorffenedig yn adlewyrchu cymeriad y fro, a hynny trwy ddychymyg creadigol y plant. Gyda rhai adeiladau yn las, coch a melyn a hyd yn oed fflatiau pinc, gwylanod enafawr ar ben y castell a physgod maint morfilod yn Afon Dyfrdwy, mae'n amlwg pam fod Cefyn yn gredwr cryf yng ngallu plant i fod yn greadigol iawn.

Dywedodd Cefyn ei fod o wedi cael pleser mawr yn dysgu am yr ardal. "I fod yn onest doeddwn i erioed wedi bod yn Y Fflint yn iawn ond ar ôl treulio cymaint o amser yma dwi wedi dod i wybod am yr holl hanes sydd i'r dref diolch yn bennaf i'r plant! Credaf fod o'n un o'r trefi sydd â mwyaf o gymeriad iddi. Roedd gweithio gyda phlant yr ardal yn brofiad ysbrydoledig iawn."

Does dim amheuaeth fod y prosiect wedi bod yn brofiad bendigedig i'r plant a oedd wedi cael ymarfer eu hiaith Cymraeg mew awyrgylch hwyliog ac anffurfiol.

Cydlynwyd y brosiect gan Fenter Iaith Sir y Fflint fel rhan o'i phrosiect Iaith a Threftadaeth gyda chymorth y Cynllun Datblygu Gwledig i Gymru 2007-2013 a gyllidwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a'r Undeb Ewropeaidd.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy