BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Fama
Gorymdaith y fedwenGŵl y Cadi Ha
Hen ŵyl yn mynd o nerth i nerth yn y gogledd ddwyrain.
Hwp Ha Wen Cadi Ha, Morus Stowt,
Am yr ucha'n neidio.
Hwp dena fo
A chynffon buwch a chynffon llo
A chynffon Rhisiart Parri'r go
Hwp dena fo.......................

Does fawr o synnwyr amlwg i'r geiriau sy'n cael eu canu i alaw y Cadi Ha, ond dyna oedd rhai cannoedd o blant ac oedolion yn ei wneud yn Nhreffynnon, Maes Glas, Caerwys a'r Wyddgrug ar Sadwrn yr Ŵyl Fai eleni.

Roedd Gwyl y Cadi Ha yn llwyddiant ysgubol unwaith eto. Rhaid bod y tywydd braf yn chwarae ei ran ....bob blwyddyn!

Tyfu'n flynyddol

Mae'r Ŵyl wedi ail-sefydlu'i hun ac yn tyfu'n flynyddol. Mae nifer y plant, yr ysgolion, a'r gwylwyr yn cynyddu'n flynyddol.

Eleni daeth grwpiau dawns oedolion atom i helpu'r dathlu - o Gaerdydd, Caerfyrddin, y Rhondda, Pen y Bont ar Ogwr, Llangadfan, Caernarfon a Chonwy.

Cafwyd dipyn o hwyl ar y stryd gyda'r dawnswyr a'r cymeriadau. Roedd y gerddi yn llawn ac roedd safle'r Abaty yn creu cefnlen dda hefyd ac mae'r sgwâr yng Nghaerwys yn cynnig ei hun yn naturiol i berfformiadau.

Bu'r twmpath yn Neuadd yr Eglwys yn Yr Wyddgrug yn llwyddiant eto...yn dilyn llwyddiant yr Hen Galan. Bydd rhaid archebu tocynnau'n go fuan at yr un nesaf!

Cwmni da, cerddoriaeth dda, plant hwyliog, dawnsio da, tywydd braf ac ychydig o leddfu syched a thwmpath bywiog gyda'r nos a dyna ni Gadi Ha arall i'w hefelychu!

Byddwch yn barod am y nesaf!


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy