| Comisiynwyd y sioe gerdd gan BBC Radio Cymru. Dyma'r ail flwyddyn yn olynol i BBC Radio Cymru gomisiynu sioe gerdd lle'r oedd disgyblion o wahanol ysgolion yn dod at ei gilydd i berfformio ar lwyfan. Ysgrifennwyd geiriau'r sioe g.r.e.t. gan Hywel Gwynfryn a'r gerddoriaeth gan Gareth Glyn, gwr fu yn gyn ddisgybl ac yn gyn athro ym Maes Garmon. Mae'r sioe yn bartneriaeth wych rhwng BBC Radio Cymru a dwy o ysgolion y Gogledd Ddwyrain, ysgolion uwchradd Maes Garmon a Morgan Llwyd. Agor gorsaf radio newydd ydi canolbwynt y sioe eleni. Eifion Tomos ydi perchennog g.r.e.t. (Gorsaf Radio Eifion Tomos). Er gwaethaf gwrthwynebiad chwyrn gorsaf radio arall (digon isel ei safon) mae diwrnod mawr g.r.e.t. wedi cyrraedd ac mae'r orsaf ar fin darlledu. Mae yma gyflwynwyr uchelgeisiol, cynhyrchwyd dadleugar a pherchennog nerfus iawn ymhlith cymeriadau. Sioe gydag amrywiaeth helaeth o ganeuon ydi hi. Yn ôl y cyfansoddwr, Gareth Glyn "Un peth dydy Sioe g.r.e.t. ddim - ac undonnog ydi hynny! Mae geiriau gwych a dyfeisgar Hywel Gwynfryn yn galw am amrywiaeth eang iawn o arddulliau cerddorol. Mae 'na ganeuon roc yma, baledi araf, caneuon digri, tinc o Gilbert a Sullivan, Lladin-America, adlais o'r opera ... ac mae un o'r caneuon yn torri record, dybiwn i, am y nifer o eiriau mae unrhyw un erioed wedi eu canu o fewn rhyw ddau funud a hanner!" Cafwyd gwledd o adloniant gan y disgyblion a phob un yn rhoi o'i orau. Noson g.r.et. yn wir! Os fethoch chi'r cyfle i weld y sioe neu os hoffech glywed mwy gan y criw, bydd y sioe gerdd yn cael ei darlledu ar Radio Cymru am l o'r gloch brynhawn y Nadolig. Cofiwch wrando.
 |