Llywyddwyd y cyfarfod gan Mr Arthur Pierce, sydd wedi bod yn flaenor yn yr eglwys ers 1971. Cyflwynwyd copi o'r gyfrol o hanes y capel i Mrs Glenys Roberts, Yr Wyddgrug, a fu'n weithgar a ffyddlon yn yr
eglwys am flynyddoedd lawer.
Bu ei chyndeidiau hithau a'i chefnder, Dr. Goronwy Wynne, Licswm yn golofnau'r achos am genedlaethau.
Braf oedd cael croesawu Cantorion Glan Alun, o dan arweiniad Goronwy, i ganu emyn o waith Edward Jones, Maes-y¬-Plwm (1761 -1829) a fu'n flaenor yn yr eglwys.
Hefyd canwyd geiriau o waith y gweinidog presennol ar dôn a gyfansoddwyd gan un a fagwyd yn yr eglwys, sef Mrs Annwen Roberts, Pentrefoelas, yn diolch i'r tadau gynt am yr etifeddiaeth sy'n eiddo i ni heddiw.
Llongyfarchwyd yr eglwys ar ran yr Henaduriaeth gan ei Llywydd, Miss Megan Jones, oedd ei hun wedi cael ei bedyddio yng nghapel Gad. Bu Dr Goronwy Wynne, Mr Arthur Gwynn Jones, Llanbedrog, Mr Gwilym Williams, Brwcws a Mr Eurwyn Roberts, (blaenor ers 1994) yn rhannu eu hatgofion am fwrlwm bywyd yr eglwys.
Diolchwyd i bawb am eu cyfraniadau gan Mr Emyr Davies, un arall o blant yr eglwys, a ddilynodd ei dad, y diweddar Mr John Davies, fel blaenor yn 1994.
Gorffennwyd yn effeithiol a chofiadwy drwy weddi gan Mr Edward WHliams, B.A., B.O., M. Add., Ysgrifennydd yr Eglwys.
Wedi'r cyfarfod cafwyd lluniaeth yn yr ysgoldy a chyfle i weld yr arddangosfa o luniau o hanes yr eglwys, i sgwrsio a hel atgofion, ac wrth gwrs i brynu'r gyfrol.
Y bore Sui canlynol cafwyd oedfa hwyliog i ddiolch am dystiolaeth yr eglwys drwy'r blynyddoedd' ac am gariad a brwdfrydedd yr aelodau presennol at yr achos.
Adeiladwyd capel Gad yn 1861. Cyn hynny roedd yr achos mewn capel llai yn y Pentre.
Edrychwn ymlaen nawr at y flwyddyn 2011 pryd y cawn ddathlu pen-blwydd y capel yn gant a banner.