| Dechreuwyd gyda gorymdaith hirfaith drwy dref y Fflint, gan gynnwys cynrychiolwyr o gymdeithasau, ysgolion, sefydliadau a chynghorau'r sir - yn eu plith roedd ambell i bwysigyn (megis golygydd Papur Fama!). Gyda thywydd godidog a golygfa gwefreiddiol o ben y bryn ger Ysgol Gwynedd, ni ellir dychmygu lleoliad gwell i gartrefu'r seremoni yng nghanol Cerrig yr Orsedd.
Ar y diwrnod y gwelwyd tîm pel-droed Lloegr yn mynd allan o Gwpan y Byd, braf oedd cael edrych draw dros y gorwel ar Lannau'r Dyfrdwy gan glywed bod cefnogaeth brwd i Eisteddfod Sir y Fflint gan ein cyfeillion dros Glawdd Offa yn Lerpwl, Cilgwri a'r cylch. Diddanwyd y dyrfa brwdfrydig gan leisiau persain Ieuan ap Sion, Rhes-y-Cae yn canu gweddi'r Orsedd a Nia Tudur yn canu'r penillion.
Cafwyd anerchiad barddol gan Aled Lewis Evans, a chyflwynwyd y copi cyntaf o'r Rhestr Testunau cyflawn gan Aled Lloyd Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith. Chwedl yr Archdderwydd hanes Aled Lloyd Davies yn datgan mewn araith - y tro nesaf y byddai'r Eisteddfod yn cael ei groesawu i'r ardal y byddai ef a'i gyfoedion wedi hen ymadael a ni! Ond balch iawn yr ydym oll i ddatgan bod Aled mor fywiog ag erioed wrth ein llywio ar hyd llwybr yr Eisteddfod.
Yn edrych yn osgeiddig ac yn ddeiniadol yr oedd Deborah Birch (neu Anti Debs i blant Cylch Meithrin a Ti a Fi y dref) fel Mam y Fro, gyda'i macwyiaid Sion Antrobus ac Owain Sparrow. Yn cyflwyno'r Flodeuged ar ran ieuenctid y fro roedd Hannah Phylip, disgybl blwyddyn 11 o Ysgol Maes Garmon gyda'i llawforynion Bethan Thomas a Medi Williams, a merched Dawns y Flodau o ysgolion Croes Atti, Gwenffrwd a Mornant. Lluniau o ŵyl Gyhoeddi Eisteddfod 2007 yma
 |