| Bydd ei wyneb yn fwy cyfarwydd byth o hyn ymlaen ac yntau wedi ymddangos ar raglen gomedi y BBC My Family ar ddiwrnod Y Nadolig. Chwarae rhan Cymro o'r enw Alfie y mae Rhodri ac yn ogystal â chanu "Dau Gi Bach" i lond ystafell o blantos swnllyd, mae' n cael actio ochr yn ochr â Robert Lindsay a Zoe Wanamaker.
Gwn ei bod yn reit braf i Rhodri gael cadw ei acen Gogledd Cymru wrth wneud y rhan. Gwyliwch allan am Rhodri pan fydd chweched cyfres My Family yn cychwyn ar y teledu yn y Flwyddyn Newydd. Dyma air gan Rhodri ei hun: Dwi'n ffodus na chefais i erioed fy mwlio yn yr ysgol, ond gan fod fy nhad yn blismon roedd un unigolyn yn hoff iawn o bigo arna i - Wayne 'dwywaith fy maint'. Bob bore byddai'n fy mhlagio gan ddweud i mi fwyta fy mrecwast o `gafn mochyn'. Wedi wythnosau o hyn, penderfynais ymateb gan fynnu mai'r unig reswm roedd ei dad yn fownsar oedd am ei fod yn fawr ac yn dew! Fi a fy ngheg fawr! Cyn i mi allu protestio roedd yr ornest wedi ei threfnu. Fo a fi, fi a fo ar dop y grisiau yn ystod amser chwarae, cyn y wers Mathemateg. Dydw i erioed wedi bod yn un am gwffio a diolch i brydlondeb athrawon Ysgol Maes Garmon, dim ond rhyw wyth eiliad barodd y bennod a heb i'r un dwrn ymgartrefu yn wyneb yr un ohonom. Er fy modlonrwydd i â'r canlyniad, roedd awydd mwy ar Wayne! Drannoeth tra'n sugno'n ddiniwed ar 'Stinger' (hyd pren mesur o sothach gwyrdd melys) ar y buarth, daeth Wayne draw gan gladdu ei ddwrn yn nyfnderoedd fy stumog. Tra'n treulio'r boen penderfynais fod yna ddwy ffordd o ymateb: ei ddyrnu'n ôl oedd yr opsiwn cyntaf; a smalio fod y `Stinger' wedi sefydlu ei hun yn fy ngwddf a'm rhwystro rhag anadlu, a thrwy hynny derfynu'r gystadleuaeth oherwydd anabledd, oedd yr ail opsiwn. Ac wele ddechreuad yr hyn fyddai'n talu fy miliau ac yn cadw'r blaidd o'r drws - Actio. Yn ffodus roedd Mr Iwan Jones yn dyst i'r digwyddiad. Taranodd draw, gan yrru Wayne i ystafell Mr Bert William a sicrhau fy mod yn iach er gwaetha'r grasfa. Llwyddiant! Erbyn hyn dwi'n gweithio yn stiwdio Pinewood ar raglen My Family. Nice one Wayne - diolch mêt (ac ymddiheuriadau i Mr Iwan Jones am ei dwyllo).
 |