Erbyn hyn mae'r bymthegfed eisteddfod ar hugain wedi mynd heibio yn yr ail gyfnod, ac eleni trefnodd ein ysgrifenyddes weithgar arddangosfa o'r holl restr testunau ers 1975, a baner i'w rhoi ar gefn y llwyfan. Un o nifer ohonom sy'n parhau ar y pwyllgor ers hynny ydi Mary Roberts, neu Mary Plas ym Mhowys i bawb o'i chydnabod. Wythnos wedi'r eisteddfod roedd Mary'n cyrraedd ei phenblwydd yn 80, ac mae mor ffyddlon a gweithgar ag erioed. Dymunwn benblwydd hapus iawn iddi. Credaf mai hi'n yw'r gyntaf i barhau ar y pwyllgor i'w wythdegau ac edrychwn ymlaen am flynyddoedd lawer o'i chwmni eto.
Er fod llawer ohonom ar y pwyllgor ers y cychwyn, mae'n galonogol gweld rhai ifanc yn dod i'n plith o bryd i'w gilydd. Braf oedd cael croesawu Meilir Ashford y flwyddyn diwethaf, ac eleni ymunodd Sian Rogers gyda ni. Mae Sian yn ferch i'r diweddar Brifardd Elwyn Roberts, Rhydtalog, a roddodd yn hael i'r eisteddfod o'i gyfoeth llenyddol a thechnolegol.
Wrth bwyllgora rydym bob amser yn edrych am gyfle i wella a hwyluso'r trefniadau ac yn aml awgrymiadau sy'n ymddangos yn syml all wneud bywyd yn llawer iawn haws. Roedd yn draddodiad ers nifer o flynyddoedd rhoi ugan ceiniog a rhuban i bawb fyddai'n cystadlu dan saith oed. Eleni dilewyd y cil-dwrn a chafwyd stiwardiaid ar waelod y grisiau i gyflwyno'r rhubanau. Gweithred digon syml meddech chi, ond am wahaniaeth wnaeth i'r rhai sy'n brysur ar y llwyfan. Doedd hi ddim fel Sbaghetti Junction mwyach, ac roedd gwen lydan ar wyneb y trysorydd o gael gwared â phentyrrau ugain ceiniog.
Efallai i chi sylwi hefyd fod cost mynediad i blant wedi ei ddileu, dim mwy o grafu pen wrth y drws wrth gyfri pennau bach a gweithio allan y newid, a llai o waith cyfri newid mân i'r trysorydd. Yn sicr roedd hon yn flwyddyn dda i geidwad y pwrs, a llwyddiant i'w wyres ar y llwyfan yn coroni'r cyfan.
Gwelsom angen am reolwr llwyfan hefyd, neu o leia dyna oedd y teitl swyddogol, mwy o 'gofer' mewn gwirionedd! Ond fe fu o gymorth mawr i ni ac roedd ganddo ddisgrifiad swydd oedd yn tyfu drwy'r dydd - chwilio am feirniaid a chyfeilyddion, sychu llestri, cynorthwyo hefo'r raffl, cario stol piano a chadeiriau a throi tudalennau i'r cyfeilydd ymysg pethau eraill. Mae'n siwr mai'r weithred olaf oedd fwyaf brawychus, yn arbennig pan welodd yr iaith Eidaleg yn syllu arno! Roedd y te a'r coffi'n llifo'n rheolaidd i'r llwyfan hefyd, diolch i drefnydd y bwyd. Cafwyd cymeradwyaeth arbennig i'r bwyd gan un o'r beirniaid hefyd - wedi iddo dreulio diwrnod cyfan yn beirniadu'n ddiweddar heb yr un frechdan na phaned.
Eleni roedd nifer y plant yn eithriadol o uchel fel arfer a braf oedd gweld neuadd orlawn yn y prynhawn. Roedd y safon i'w ganmol hefyd, ac rwy'n siwr y byddwn yn cofio'n hir am y gystadleuaeth cerdd dant dan unarddeg oed. Fel y byddem yn disgwyl roedd y nifer i lawr yng nghyfarfod yr hwyr, ond wnaeth y safon ddim dioddef. Cynhaliodd ychydig o ieuenctid dawnus nifer o gystadleuthau, ac rydym yn ddiolchgar iddynt am deithio mor bell i'n cefnogi. Rydym bob amser hefyd yn gwerthfawrogi teyrngarwch partion lleol sy'n dod yn flynyddol i'n cefnogi.
Wel dyna rhyw bigion yn unig o ddiwrnod prysur a llwyddiannus iawn, argraffiadau o du hwnt i'r llenni yn hytrach nag adroddiad llawn o'r cystadlu. Efallai y flwyddyn nesaf y cawn argraffiadau gan un o'r gynulleidfa. Beth amdani?