BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Fama
Caffi LleweniMenter Newydd Catrin
Rhagfyr2007
Yn ddiweddar bu Catrin a Euros Evans yn adnewyddu plasdy hanesyddol Lleweni ac maent bellach wedi agor siop gynnyrch fferm a chaffi ac yn brysur yn magu moch arbennig!
Mi ryden ni'r Cymry yn aml yn cael ein barnu am fod yn bobl reit ddi-fenter. Ond fedr neb ddweud fod Catrin Evans (Morris gynt) a'i gwr Euros yn ddi-fenter.

Daw Catrin o'r Wyddgrug ac mae hi'n frech i Mayda a'r diweddar Bill Morris. Dyma ychydig o'u hanes,

Mis Tachwedd yn Lleweni a threfniadau'r ffair Nadolig
Cawsom ddiwrnod llwyddiannus iawn pan agorwyd y siop canol fis diwethaf gyda dros dau gant o bobl wedi dod draw i weld seidr yn cael ei wneud yn y dull traddodiadol, i fwynhau cawl cartref ac i weld yr anifeiliaid.

Agorwyd y siop gan Sparrow Harrison o Cae Dai, Dinbych (safle yr amgueddfa 50au - gwerth ei weld!).

Efallai eich bod wedi clywed am Ymddiriedolaeth Cae Dai, lle mae gwaith arbennig yn cael ei wneud i helpu pobl sydd dan anfantais wrth gynnig lloches, cefnogaeth a hyfforddiant er mwyn iddynt wneud y gorau o'u gallu.

Y moch Tamworth
Sparrow ddaru rhoi ein moch bach Tamworth cyntaf ini ac rydym yn dal i weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod digon o'r moch brid prin yma yn cael eu magu.

Y tro cyntaf imi glywed am y brid Tamworth oedd ar y newyddion yn 1998 pan ddaru dau fochyn ddianc wrth iddynt gael eu dadlwytho o gerbyd ffarmwr mewn lladd-dŷ yn ne Lloegr.

Roedd stori'r 'Tamwoth Two' wedi creu diddordeb mawr led led y byd, cawsant eu dal ar ôl wythnos a'u cartefu mewn canolfan loches i anifeiliaid brid prin.

Llynedd ddaru rhai o'n moch ni ddianc a'u heglu hi lawr y lon ond wrth lwc dyma nhw'n fy nilyn yn ôl i Lleweni pan ddechreuais wneud sŵn gyda'r bwced bwyd!

Rydym hefyd yn gwerthu cig o fochyn brid prin arall sef y 'Saddle-back' sydd yn cael eu magu yn Hafod Elwy ar Fynydd Hiraethog.

Mae'r cigoedd brid prin yma o'r safon uchaf gyda blas unigryw iddynt.

Gwartheg Dexters
Cychwyn Tachwedd daeth gwartheg Dexters yma ynghyd â dau lo ifanc. Mae'r Dexters erbyn hyn yn cynyddu yn eu poblogrwydd ond roeddent yn cael eu hystyried yn anifail brid prin tan yn ddiweddar.

Mae'r brid yn wreiddiol o Dde Iwerddon (1800) ac roedd eu gallu i gynhyrchu digon o laeth i'r cartref a llo ar gyfer cig bob blwyddyn yn gyfuniad delfrydol i lawer o deuluoedd.

Mae'r cig a gynhyrchir o'r Dexter yn draddodiadol iawn gyda braster marmor sydd yn anhebyg i'r cig a geir mewn archfarchnadoedd.

Moch bach
Canol fis Tachwedd ddaru ein hwch, Babs, rhoi genedigaeth i 11 o foch bach. Roedd hi'n amlwg y noson cynt fod moch bach bron a chyrraedd oherwydd y ffordd roedd Babs wedi gwneud nyth gyffyrddus allan o wellt.

Mae'r moch bach yn dod yn eu blaen yn dda ac yn amlwg wrth eu boddau gyda chynhesrwydd y lamp pwrpasol. Da ni'n bwriadu rhoi 'pig-cam' ar ein gwefan www.lleweni.co.uk yn fuan er mwyn i bobl weld datblygiad y moch bach, maent yn ddoniol dros ben i'w gwylio.

'Sbubor fawr,
Ar ôl studio hen luniau o Lleweni da ni'n credu fod y sgubor fawr yn rhan o'r plasdy oedd yn sefyll yma cyn i rhan helaeth ohono gael ei ddymchwel yn y 1850au.

Dros y blynyddoedd pwrpas amaethyddol oedd i'r sgubor ond erbyn hyn mae'n stafell fawr agored gyda lle tân a digon o gymeriad ac yn le delfrydol ar gyfer cynnal gwledd.

Caffi Lleweni

0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy