| Llwyddodd Castle Cement o ardal yr Wyddgrug i arbed miloedd o bunnoedd trwy helpu i symud cofeb ryfel Gwernymynydd o ymyl priffordd beryglus i safle llawer distawach ger Canolfan y Pentref. Yn awr, mae'r Cyngor bro wedi anfon yn swyddogol at y cwmni i ddiolch iddyn nhw am gyfrannu gweithwyr, offer ac arbenigedd i symud y Gofeb hardd i'w llecyn newydd. "Fyddai hyn ddim wedi bod yn bosib heb gymorth staff o chwarel Castle yn Cefn Mawr," meddai Martin Richardson, Clerc Cyngor Bro Gwernymynydd. "Mae pawb yn y pentref wrth eu bodd fod y Gofeb wedi ei symud. Mae'r safle newydd ganwaith gwell." "Cyn hyn, roedd rhaid cynnal gwasanaethau Sul y Cofio allan yng nghanol priffordd brysur yr A494," meddai Mr Richardson. "Yn ogystal â phroblemau oherwydd swn y traffig, roedden ni'n ofni'n fawr y byddai yna ddamwain ddifrifol." Roedd y gwaith yn golygu datgymalu'r Gofeb, paratoi'r tir yn y safle newydd, adeiladu sylfaen concrit a chario'r holl gerrig yn barod ar gyfer adeiladu'r Gofeb yn union fel yr oedd. Dangosodd amcangyfrifon y byddai cyfraniad Castle wedi costio miloedd o bunnoedd - gyda chwarel arall leol yn cyfrannu tarmac, dim ond am wasanaeth saer maen arbenigol yr oedd rhaid i'r cyngor dalu. "Roedden ni wrth ein boddau i allu helpu" meddai Noel Williams, Rheolwr Castle yn Chwarel Cefn Mawr. "Mi fyddwn ni'n gwneud ein gorau i helpu achosion lleol ac mae'r chwarel o fewn ffiniau Cyngor Bro Gwernymynydd." "Roedd y prosiect yn amlwg o werth mawr i'r gymuned ac mae'n golygu llawer i bobl a gollodd deulu ac anwyliaid yn y ddau Ryfel Byd. Cafodd y gwaith ei wneud dan gyfarwyddyd ei ddirprwy, David Williams, ac roedd yn cynnwys gosod pecyn amser o 2002 yn y sylfeini. Roedd y Gofeb wedi ei chodi ar ôl y Rhyfel Mawr, gydag enwau eraill yn cael eu hychwanegu ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
 |