Talwyd am chwarter tudalen neu hanner tudalen (ac ambell dudalen cyfan) gan bobyddion, groseriaid, cigyddion, gwerthwyr ffrwythau a llysiau, teilwriaid (a J.T Jones, Hen siop Daniel Owen', yn eu plith), gweisg a llyfrwerthwyr, fferyllwyr, haearnwerthwyr, seiri coed ac adeiladwyr, siopau esgidiau a.y.b. Does dim sôn am yr un dafarn yn y rhaglen, ond roedd hysbyseb gan gaffi (The Dorothy) ac un tŷ^ lletya (Belmont, yn y Stryd Fawr).
Mentrau lleol oedd y rhain i gyd ac eithrio dwy gangen o gwmnïau . cadwyn', sef gwerthwyr esgidiau Morton (a chanddynt naw 0 siopau eraill yn y gogledd-ddwyrain a Chaer) a Bradley's o Gaer ('the great North Wales Clothiers & Outfitters'), gyda thudalen cyfan yn rhestru un ar hugain o siopau yn y gogledd a'r canolbarth.
Ychydig o'r busnesau lleo1 a ddefnyddiodd luniau i ddangos yr hyn oedd ar werth.
Un eithriad oedd R.O.Hughes ac H.G.Thomas, perchnogion y Flintshire Motor Exchange, fel y gwelir oddi wrth y darlun o'r car bach to-clwt.
Ymhlith y cynigion yn eu modurdai yn Stryd Newydd Yr Wyddgrug a Ffordd Gaer Y Fflint roedd 'high class open and closed cars for hire'.
Sut oedd cadw car i fynd ar y ffordd yr adeg honno? Drwy ddefnyddio Pratt's Perfection Spirit, yn ôl yr AngloAmerican Oil Company o Lundain.
Cymerodd y cwmni dudalen cyfan i hysbysebu ei betrol, gan annog modurwyr i chwilio am y Golden Pump neu'r Green Can.
Ond os oeddech am deithio'n gyflymach byth, beth am brynu'r beic-modur pwerus gan y North Wales Motor Exchange o Wrecsam?
Roedd sawl siop ddillad leol yn hysbysebu yn y rhaglen. Ond W.S.Williams o Sunny Rhyl a Llandudno yn unig a ddangosodd enghraifft o'r latest Decree in Fashion i wragedd.
Ac wedi bod allan am dro yn ei chot laes a'i het grand, gallai cwsmeres ymneilltuo i'w llofft foethus a thwtio ei hun o flaen y bwrdd ymbincio a ddaeth yr holl ffordd o'r Pioneer Stores ('Everything for the Home'), Bold Street, Lerpwl.
Mae'r ysmygwr llon a'i ffrind edmygus yn rhan o hysbyseb am 'Sunripe', the EXTRA Size Cigarettes.
Y pris: chwecheiniog am ddeg, swllt am ugain ('Also 50's'). Y slogan ogleisiol oedd 'For Size and Tone, They stand Alone'.
Credai rhai fod y Gymraeg dan fygythiad ym 1923, fel y gwelir oddi wrth hysbyseb R. W.Melangell Evans ar ran Byddin yr faith.
Beth fu hanes y mudiad hwn, tybed? A oes rhai o'i fathodynnau neu ei 'gardiau ymrwymiad' wedi goroesi?
Philip Lloyd