BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Fama
CrwthGwyl y werin gudd
Ionawr 2008
Cynhelir gŵyl newydd sbon - Tegeingl - yn Yr Wyddgrug ar 15-16 Awst, 2008.

Rydym yn trefnu digwyddiad newydd yn Sir Y Fflint, i'w chynnal eleni yn nhref Yr Wyddgrug ar y 15-16 Awst, 2008. Gŵyl traddodiadau celfyddyd cyhoeddus yn bennaf fydd Tegeingl.

Pan ddaeth y Rhufeiniaid i'r rhan yma o'r byd, y Decangli oedd y llwyth Geltaidd brodorol ac felly hwythau yw trigolion cynharaf yr ardal gydag enw gallem cysylltu a hwy. Wedi ymadawiad y Rhufeiniaid datblygwyd cantref mewn ardal yn cyfateb yn fras i ran helaeth o Sir Y Fflint heddiw.

Cymerodd y cantref yr enw Tegeingl ar ôl y Decangli. Ers yr 8fed ganrif, newidiodd Tegeingl ddwylo sawl gwaith rhwng tywysogion Gwynedd, y Mersiaid, y Normaniaid a Choron Lloegr.

Trwy'r Ŵyl byddwn yn adlewyrchu'r gelfyddyd a'r diwylliant gwerin gyfoethog sydd wedi datblygu a goroesi yma yn ardal y Decangli ar hyd y canrifoedd.

Mae lleoliad Tegeingl/Sir y Fflint yma ar y ffin gyda'r llanw a thrai o ddiwylliannau yn golygu bod cymysgedd cyfoethog ac unigryw iawn o hanes, treftadaeth a chelfyddyd yn yr ardal.

Un o brif amcanion yr Ŵyl yw bod yn ddrws agored y gall ymwelwyr o bell ac agos gamu trwyddo i brofi a chymryd rhan yn y gorau o ddiwylliant ac amcan arall yw denu artistiaid o wledydd eraill i ddiddanu ni'r Cymry.

Bydd caneuon, alawon, dawnsfeydd a chwedlau gwerin traddodiadol a chyfoes ein hardal a'n gwlad yn cael sylw a llwyfan ochr yn ochr a'u bath o wledydd eraill.

Bydd y prif lwyfan wedi ei osod mewn marquee ar gaeau Clwb Rygbi'r Wyddgrug. Bydd yno le i gynnal cyngherddau, cystadlaethau a thwmpathau dawns. Bydd ail leoliad yn y Clwb Rygbi ei hun ar gyfer trefnu gweithgareddau celf i blant a theuluoedd a gweithdai dawns, iaith, cerddoriaeth offerynnol a lleisiol. Bydd ardal ieuenctid a chystadleuaeth Cerddor Ifanc. Yn ogystal a hyn bydd stondinau cynhyrchwyr a busnesau lleol, fel bod modd i'n hymwelwyr gael blas o'r hyn sydd i'w gynnig gan Sir y Fflint a'r cyffiniau.

Os oes gennych unrhyw wybodaeth am gelfyddyd gwerin yr ardal hoffem yn fawr iawn clywed gennych. Rydym yn gobeithio cynnig blas o ddiwylliant yr ardal trwy'r meysydd canlynol: canu lleisiol, canu offerynnol, dawns, llenyddiaeth, barddoniaeth ac adrodd chwedlau. Byddem yn ddiolchgar iawn am bob cyfraniad boed o ran gwybodaeth, hanes, diddordeb mewn cynnal stondin neu perfformiad, cefnogaeth pwyllgorol / arianol / stiwardiol, syniadau eraill ayyb.

Os hoffech gyfrannu cysylltwch a Rhian ar 07919 177373 neu [email protected].

Mae Cymru yn wlad gyfoethog o ran diwylliant, hanes, iaith a threftadaeth ac yn aml mae pobl yn anghofio beth sydd gan eu hardal leol i'w gynnig. Rydym yn gobeithio y bydd Tegeingl - Gŵyl y Werin Gudd yn datguddio rhyfeddodau i bawb!


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy