BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Fama
Sgwrs ddifyr a pheint.Y Savoy - mecca gigs Cymreig y 'Dolig
Mae pawb yn gwybod nad oes venues yn Yr Wyddgrug ac felly ron i'n synnu clywed am hyn.

Fe gyrhaeddodd 80 o bobl y Savoy (dim llwyfan, dim awyrgylch, ond llawr i ddawnsio - jyst) i weld dau grwp a DJ.

Y grwp cyntaf i ymddangos oedd Manchuko. Maen nhw'n dod o Ddinbych ac mae ganddyn nhw lawer o ganeuon da - llawn o bethau diddorol a hit sections.

Dylanwadau amlwg

Mae'r dylanwadau arnyn nhw'n amlwg - Radiohead a Jeff Buckley a thipyn bach o REM. Mae'r canwr yn swnio fel cyfuniad o Jeff Buckley a Tom Yorke tua 1995, yn enwedig ar y rhannau falsetto.

Ar y cyfan, roedden nhw'n grêt fel grwp oedd yn cefnogi'r prif grwp gan eu bod nhw'n swnllyd a phroffesiynol.

Anodd bywiogi'r dyrfa

Ymddangosodd DJ Ian Cotrell rhwng perfformiadau'r ddau grwp. Fe chwaraeodd ef gerddoriaeth ddawns mainstream, ond roedd bywiogi'r dyrfa yn dasg anodd - roedd y llawr yn wag tan yn hwyrach yn y nos.

Magic Alex oedd yn perfformio nesaf. Maen nhw'n dod o'r Wyddgrug ac yn swnio fel y Stereophonics. Mae nhw'n dynn iawn ond weithiau roedden nhw'n undonog - roeddwn i eisiau mwy o amrywiaeth drwy'r set.

Sut bynnag chwaraeodd y grwp fersiwn o There is a light that never goes out gan The Smiths a chyn bo hir roedd yna bobol yn dawnsio! Felly roedd hi'n noson dda a rhad hefyd - tair punt am dair act!


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy