| Nid felly ers talwm; yn y dyddiau gynt gwyddai pawb am bwysigrwydd Henaduriaeth, Cwrdd Chwarter, Synod, Sasiwn, Undeb a Chymdeithasfa - llysoedd mawr ein henwadau crefyddol. Eu harweinwyr oedd mawrion yr ardaloedd. Roedd llywodraeth Leol a threthi cymdeithasol yn pylu wrth ochr dylanwad a threfniadaeth y cyrff mawr crefyddol hyn. Roedd eu trafodaethau a'u penderfyniadau a seiliwyd ar gyfansoddiadau democrataidd cadarn yn llywio bywyd cymdeithas gyfan. Beth sydd wedi digwydd i benawdau'r Sun, y Daily Post, y Mail a Sport on Sunday ddenu'n sylw a'n diddordeb, a thrwy hynny wedi gwanhau ein hymwybyddiaeth o gryfder y cyrff yma. Ond mae'r pennawd uchod yn gwbl wir serch hynny. Mae'r Henaduriaeth yn dal i fodoli a'r Cwrdd Chwarter a'r lleill i gyd hefyd, a fframwaith eu democratiaeth yn dal yn ei le. A beth am y rhai sy'n eu cynnal? Mae pobi lew iawn, iawn yn eu plith eto; mwy felly nag erioed pan ystyrir bod ein hymdrechion gorau yn aml yn mynd heibio'n ddisylw gennym yn ein bywydau o rithr di-gyfeiriad. Pwy sy'n parhau i weithio heddiw yn yr encilion, i gynnal peirianwaith ein Capeli a'n heglwysi ar ein cyfer? Wel un ohonynt oedd gwrthrych y dygwyddiad o bwys mawr yn eisteddiad yr Henaduriaeth yn Y Waun yn ddiweddar. Bu Miss Megan Jones, tan y noson honno, yn ysgrifennydd am un mlynedd ar bymtheg yn ddi-dor: hi oedd y ferch gyntaf i ddal y swydd ac yn un enynnodd serch ac edmygedd pawb drwy ei hymarweddiad a'i gwaith diflino mewn cyfnod anodd. Achlysur i gydnabod a gwerthfawrogi oedd hwn. Ar y Glannau y codwyd Megan ac yno y mae'n byw o hyd. Yng Nghapel bach Queensferry yr addolodd er yn ferch fach, hyd ei ddatgorfforiad disyfyd ar ddiwedd y ganrif. Un ohonom ni ydy hi. Wrth gyflwyno i Megan, dysteb fach o werthfawrogiad ei chyd-aelodau o'r Henaduriaeth, cyfeiriodd John Rosser yn arbennig am yr wybodaeth fawr a feddai, o holl drefn ein henwad ac am ei sirioldeb a'i hamynedd wrth ymateb i gri'r eglwysi am gymorth i ddatrys problemau a gyfyd. Mynychodd ugeiniau o bwyllgorau a bu'n gefn i'r Llywyddion ar hyd y blynyddoedd. Drwy ei dyfal baratoadau a'i phresenoldeb tawel bu cytgord a chyfeillgarwch mwy nag erioed yn nodweddu'r cyfarfodydd. Cymaint yw'r gydnabyddiaeth o'i thalent a'i chyfraniad gan yr eglwysi drwyddi draw fel mai Megan yw Llywydd Etholedig Cymdeithasfa Gogledd Cymru - yr ail ferch erioed i ddal y swydd honno. Dymunwn iddi bob rhwyddineb a bendith yn y swydd bwysig yma. Felly, os byddwch yn teithio'r gogledd, ac yn cyfarfod car Fiesta-MEG 90-Megan fydd yn gyrru ar ei ffordd i wisgo mantell Llywydd i anrhydeddu Cyfarfod Misol yn rhywle rhwng Sir Fôn a Threfaldwyn; un ai i ordeinio blaenoriaid neu draethu cyngor a rhoddi stamp ei chymeriad ar y trafodaethau. Os digwydd hynny, rhowch dwt bach ar y corn i gydnabod eich gwerthfawrogiad chithau.
 |