| Nid oes damwain wedi digwydd ar y gwaith ers dros flwyddyn. Mae'r cwmni wedi penderfynu dathlu'r gamp trwy gyflwyno gwin i'r gweithwyr o'r siop Gymreig yn Llanrwst, Blas ar Fwyd. Yn draddodiadol cysylltir diwydiannau trwm fel gwaith sment â damweiniau, ond mae gweithwyr Castle yn newid y rhagfarn honno. Yn y gorffennol bu cymryd diwrnodau i ffwrdd o'r gwaith i wella ar ôl damwain yn rhan annatod o'r swydd ond dengys Castle nad yw hynny bob tro'n wir. Datblygu canllawiau newydd Mae Swyddog Diogelwch, Iechyd ac Amgylchfyd Castle, Clare Richards, wedi bod yn gweithio gyda systemau rheoli newydd i ddatblygu canllawiau a dulliau gweithredu newydd i ddiogelu'r dynion ac mae hi'n eu canmol am gynefino â nhw. "Mae'n rhaid i ddiogelwch a'r amgylchedd ddod yn rhan naturiol o'ch gwaith o ddydd i ddydd" esbonia. "Mae llawer o'r gweithwyr wedi bod efo Castle ers blynyddoedd ac mae'n rhaid iddyn nhw addasu". Bu Clare hefyd yn datblygu cynllun iechyd a ffitrwydd newydd ar gyfer y gweithlu ac mae nifer ohonyn nhw yn gweld bod gweithlu iach yn gweithio ac yn chwarae yn well ac yn fwy gofalus. Newid meddylfryd Mae Tony Allan, Prif Weithredwr y Gwaith Sment ym Mhadeswood wrth ei fodd gyda'r cofnod iechyd anhygoel ac yn falch iawn bod gweithwyr Padeswood yn mynd ati i newid meddylfryd bobl. "Mae gweithio am flwyddyn gyfan heb ddamwain yn gamp sylweddol ac yn dyst i'r ffordd y mae'r gweithwyr wedi mynd ati i ddefnyddio'r canllawiau diogelwch newydd a'u defnyddio o ddydd i ddydd. Mae diwydiant trwm o unrhyw fath yn cael ei feirniadu am ddod â damweiniau yn ei sgil ond mae Castle yn dangos nad yw hyn bob tro'n wir." I ddathlu'r gamp mae Castle Cement yn cyflwyno potel o win coch a photel o win gwyn i bob gweithiwr.
 |