BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Fama
MariCerdded dros MENCAP
Chwefror 2009
Teithiodd Mari Roberts a'i chwaer i Batagonia er mwyn codi arian at MENCAP Cymru.

Mae MENCAP yn gweithio gyda phlant a phobl gydag anabledd dysgu, a gyda'u teuluoedd a'u gwarchodwyr i geisio atal gwahaniaethu a rhagfarnu.

Bob wythnos mae 12 o fabanod yng Nghymru yn cael eu geni gydag anabledd dysgu. Gall hyn fod drwy nam genetig, fel Syndrom Down, neu niwed yn ystod genedigaeth, fel Parlys yr Ymennydd, a llawer o resymau eraill. Mae yna dros 60,000 o blant a phobl gydag anabledd dysgu yng Nghymru.

Mae Mari yn hoff iawn o gerdded a chymrodd hi a'i chwaer at y sialens o godi'r swm o £3500 yr un. Buon nhw'n ymarfer yn galed (ar Gadair Idris ac ar Yr Wyddfa) ac ymuno gyda 40 arall ar y daith. Roedd Iolo Williams yn eu harwain ond ddim yn ei siorts - roedd hi'n llawer rhy oer iddo fe hyd yn oed i ddangos ei goesau!

Pum diwrnod oedd y daith gerdded yn Ne yr Andes, yn agos i'r ffin gyda Chile ac o fewn Parc Cenedlaethol Los Glaciers. Roedd pawb yn cario eu paciau eu hunain ac yn cysgu mewn pebyll am rai nosweithiau (er doedd hynny ddim yn hawdd pan oedd hi'n minws 4 ac eira mawr erbyn yr ail ddiwrnod). Roedd croeso mawr i'r lamas wrth iddyn nhw ddod â dwr a bwyd ffres i'r cerddwyr ar y trydydd diwrnod. Cawsom wledd i'r llygad yn dilyn y daith drwy'r mynyddoedd a'r anfonydd iâ anferth, y gwersylloedd lle'r oedden nhw'n aros a chip ar adar gwyllt y goedwig. Roedd y chwe tywysydd lleol yn hwyliog ac yn wybodus am eu hamgylchedd.

Wedi cwblhau'r daith dyma'r criw yn hedfan ar y daith deirawr am Drelew, i ochr ddwyreiniol Patagonia. Sôn am werthfawrogi ystafell wely gynnes, cawod a gwely cyfforddus! Cafwyd gyfle i grwydro Peninsula Valdes a gweld y morfilod enwog, Porth Madryn, diwrnod yn y Gaiman ond yn anffodus gorfu i'r criw golli'r cyfle i ymweld ag Eisteddfod Chubut gan bod amser yr awyren wedi gorfod cael ei newid. Ymlaen am Buenos Aires felly, pryd o fwyd a sioe tango a phawb yn derbyn tystysgrif i nodi cwblhau'r daith gerdded.

Erbyn hyn mae Mari a'i chwaer wedi hel tua £8000 rhyngddyn nhw at MENCAP Cymru.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy