Mae Les Barker yn adnabyddus i nifer yn Sir y Fflint erbyn hyn er ei fod yn byw ym Mwlchgwyn ger Wrecsam. Bu'n dysgu Cymraeg ers tua thair blynedd ac erbyn hyn wedi trwytho ei hun yn y traddodiad. Fel y cofiwch o bosib bardd gwlad ydy Les yn ôl ei alwedigaeth. Mae o wedi dechrau ysgrifennu barddoniaeth yn y Gymraeg ers dwy flynedd ac yn gynharach eleni ymddangosodd ar Dalwrn y Beirdd ar dîm Wrecsam. Ers nifer o flynyddoedd mae Les wedi cymryd rhan mewn prosiect o'r enw 'The Guide Cats' ar gyfer y BCAB (British Computer Association for the Blind). Syniad Les oedd cynhyrchu CDs o farddoniaeth efo enwogion yn darllen. Enw un o gerddi cynharaf Les oedd 'Guide Cats for the Blind'. Mae'r prosiect yn codi pres i alluogi'r deillion i gael defnydd o'r dechnoleg diweddara yn y maes yn eu cartrefi, gwaith neu neuadd gymuned. Yn dilyn y CD cyntaf daeth CD o'r enw 'The Missing Persians' File' efo mwy o enwogion yn darllen gwaith Les. Wedyn CD o'r enw 'Top Cat, White Tie and Tails'. Erbyn hyn rwy'n siwr eich bod yn cael syniad o hiwmor Les! Erbyn hyn mae CD newydd o'r enw 'Cat Nav' ar fin ymddangos. Ymhlith yr artistiaid yn darllen gwaith Les i godi pres at yr elusen mae Richard Briers, Alan Titchmarsh, Isla St Clair, Bernard Cribbins ac Archesgob Caergaint. Dywedodd Les "Penderfynodd y trefnydd edrych o gwmpas Sir Gaint am artistiaid y tro 'ma, ac wrth gwrs mae'r Archesgob yn siarad Cymraeg, felly gyrrais i'r fersiwn Cymraeg i'r trefnydd, rhag ofn buasai'r Archesgob yn fodlon". Yn ffodus roedd y cais yn lwcus a bydd Yr Archesgob yn darllen un o gerddi Les yn y Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg. Enw'r gerdd ydy Eliffantod Coll Dinbych. Mae'n debyg bod y CDs yma wedi codi dros ddeugain mil o bunnoedd sy'n cael eu dyblu gan gronfa'r Loteri felly os ydych chi eisiau helpu'r achos a chael llond bol o chwerthin yr un pryd ewch ati i brynu'r CD.
 |