Mae'r elusen Cyswllt â'r Henoed yn rhoi hwb i fywydau nifer o aelodau oedrannus yn ein cymunedau drwy gynnig cwmni a the pnawn Sul rheolaidd iddynt. Rydym angen 3 neu 4 gyrrwr gwirfoddol yn ardal Yr Wyddgrug all roi rhyw dair awr unwaith y mis ar gyfer grŵp newydd. "Mae'n syniad syml", meddai Jane Evans, Swyddog Gogledd Cymru, "te bach ar bnawn Sul gyda grŵp o gyfeillion yn cwrdd yng nghartref rhywun lleol. Hawdd iawn os ydych ddigon abl i fynd o gwmpas eich hun, ond amhosibl os nad ydych yn gallu mynd allan eich hunan heb help llaw, a hwyrach nad oes llawer o deulu neu gyfeillion yn byw yn agos." Bob mis, mae gyrrwyr gwirfoddol lleol yn mynd â'r un grŵp o bobl oedrannus i dy lletywr, rhywun gwahanol bob mis sy'n croesawu'r grŵp i'w cartref a pharatoi te syml. Mae'r aelodau wrth eu bodd yn mwynhau paned a sgwrs. Mae grŵp newydd ar y gweill yn Yr Wyddgrug ond rydym angen rhagor o wirfoddolwyr. Meddai un aelod, 96, sy'n aelod o grŵp yn ne Cymru, "Rwy'n edrych ymlaen at y te bob mis. Mae'n anodd i mi fynd allan oherwydd nid wyf yn gweld yn dda iawn bellach. Mae rhywun yn galw amdanaf a mynd â fi i dai braf ble rydym yn cyfarfod pobl garedig ofnadwy a chael te bendigedig. Beth well na hynny? Mae'n syniad ardderchog!" Byddai Cyswllt â'r Henoed yn falch iawn o glywed gan ddarllenwyr Papur Fama sy'n yrwyr ac yn berchen car fyddai'n fodlon cynorthwyo, neu gan rai fyddai'n fodlon gwahodd grŵp o hyd at 10 i'w cartref am de unwaith neu ddwywaith y flwyddyn - y cyfan sydd ei angen yw toiled lawr grisiau a thebot mawr! "Mae'n braf gweld grŵp newydd yn ffynnu," meddai Jane. "Mae cwmni a sgwrs rheolaidd yn gwneud byd o wahaniaeth i fywydau pobl unig. Mae'r aelodau yn gwneud ffrindiau newydd ac mae'r gwirfoddolwyr yn mwynhau pnawn gwerth chweil hefyd."
 |