BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Fama
Alwyn, Lois, Elinor, Hywel a RobbieWyneb newydd Swyddfa'r Steddfod
Mawrth 2007
Efallai bad rhai ohonoch wedi sylw yn ddiweddar bod rhywun arall heblaw am Robbie y ci yn dilyn Hywel Wyn Edwards o gwmpas!
Aelod diweddaraf staff yr Eisteddfod Genedlaethol ar Dirprwy Drefnydd newydd ydi Alwyn Meirion Roberts yn wreiddiol o Lanuwchllyn.

Aeth Papur Fama draw i'r Swyddfa yn ddiweddar i'w gyfarfod.

Papur Fama: Llongyfarchiadau a croeso mawr iawn i ti. Beth ydi dy argraffiadau cyntaf am bobl ardal Papur Fama?

Alwyn: Er mod i ond newydd ddechrau yn y swydd, mae'n taro rhywun yn syth pa mor gefnogol ydi pobl yr ardal at yr Eisteddfod. Mae brwdfrydedd y pwyllgorau yn hollol amlwg. Mae'r targed ariannol i'w weld yn dod yn ei flaen yn wych a chithau wedi cael cyn lleied o amser. Dwi'n ffyddiog bad y targed yn gyraeddadwy, ond dydi hynny ddim yn golygu y gallwn orffwyso ar ein rhwyfau. Buasai hi'n wych gweld y targed yn cael ei basio yma yn Sir Fflint yn fy Eisteddfod gyntaf fel Dirprwy Drefnydd!

Papur Fama: Wyt ti'n gyfarwydd ag ardal Papur Fama?

Alwyn: Dwi wedi bod yn yr Wyddgrug ambell waith ond ddim yn gyfarwydd iawn a'r ardal mae'n rhaid i mi gyfaddef. Bues i yma yn cystadlu gyda phedwarawd cerdd dant pan ddaeth yr Wŷl Gerdd Dant yma yn '98. Roeddwn i yma hefyd yn Steddfod '91, ond mae'n debyg mod i'n fwy cyfarwydd a'r Clwb Rygbi nag un man arall byd hynny dwi'n cofio mynd i sawl gig yno yn ystod yr wythnos!

Papur Fama: Beth oedd dy brofiadau cyntaf o'r Eisteddfod Genedlaethol?

Alwyn: Dwi'n cofio aros gyda fy modryb wythnos Eisteddfod Rhyl '85 a chael gwaith gyda fy nghefnder yn gwerthu Western Mail o amgylch y Maes Carafannau! Roeddem ni'n dau yn cael lifft ben bore gan Taid i'r maes ac yn deffro'r carafanwyr druan er mwyn ennill ein ceiniog!

Cefais waith wedyn yn ystod gwyliau haf y coleg yn '95 yn codi pebyll ar gyfer Eisteddfod Abergele. Mae'n debyg fod y profiad yma o fod yn rhan o'r bwrlwm paratoi wedi creu argraff arna i, ac yn rhannol reswm pan nes i drio am y swydd hon.

Papur Fama: Wyt ti erioed wedi cystadlu neu berfformio yn yr Eisteddfod?

Alwyn: Do, ambell dro dros y blynyddoedd ond mewn partïon a chorau yn bennaf. Yn ogystal, mi fues yn hynod ffodus i gael fy newis i fod yn un o gymeriadau'r sioe gerdd "Er Mwyn Yfory" gyda Theatr Meirion yn Eisteddfod Y Bala yn '97.

Mae'n debyg fod y profiad yma wedi gosod y seiliau i mi fynd ymlaen i ymuno it Chôr Godre' r Aran a Chymdeithas Gorawl Llanuwchllyn faes o law. Rhoddodd y cyfle o berfformio ar lwyfan yr Eisteddfod (ac ambell i theatr arall wedi hynny) hwb i mi barhau gyda'r 'pethe' ar ôl i'r Eisteddfod adael y fro, a gobeithiaf y bydd yr un abwyd ac awch yn gafael yn bobl ifanc Sir y Fflint eleni.

Papur Fama: Oes yna unrhyw siawns y gallwn ni dy berswadio i ymuno a Chôr y Pentan?

Alwyn: Mi fuaswn i wrth fy modd, ond mae amser yn brin gyda'r swydd newydd ar teithio nol a mlaen i Gaernarfon bob dydd. Mi fyddai wedi canu it Côr Godre'r Aran ers deg mlynedd eleni, a dwi'n edrych ymlaen i ddod i Theatr Clwyd i berfformio ar y 29ain o Ebrill. Gobeithio'ch gweld chi gyd yno bryd hynny!

Papur Fama: Diolch yn fawr a pob lwc gyda'r swydd!


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy