Daeth llwyddiant ar ffurf llwybr newydd i'r Wyddgrug yn ddiweddar ar ôl misoedd o waith caled. Mae'r llwybr yn dilyn rhan o hen reilffordd o'r Wyddgrug i Ddinbych ac adnewyddwyd y llwybr yma a'i wneud yn rhwyddach i gerddwyr a'r anabl. Arianwyd y fenter gan y 'Bovril Great Outdoors Revival'. Cynllun oedd hwn lle roedd y trigolion yn cael pleidleisio ar ba brosiectau, yn eu barn hwy, a ddylai elwa o swm o £100,000 i helpu i ddatblygu a gwella yr amgylchfyd yn y gymuned. Enwebwyd y llwybr yma, fel un oedd yn haeddu rhan o'r arian at y gwaith gwerthfawr, gan Howard White, cadeirydd cangen Clwyd o Cerddwyr Cymru. Dywedodd: "Rydym yn falch iawn o weld y llwybr yn cael ei agor i fyny i'r cyhoedd i gyd yn cynnwys rhai anabl a rhai yn defnyddio cadair olwyn. Mae'r llwybr rwan yn hawdd i'w gyrraedd, yn agos i ganol tref Yr Wyddgrug ac yn linc i'r llwybrau cyhoeddus eraill sy'n dilyn yr afon Alyn." Cyn yr adnewyddiad 'roedd y llwybr wedi gor-dyfu â llwynni a chwyn. Roedd y gwaith yn cynnwys clirio, chwynnu, twtio llwynni, cael gwared o sbwriel a rhoi wyneb o gerrig mân i orchuddio balast y rheilffordd. Rhed y llwybr ar hyd rhan o'r hen reilffordd rhwng Yr Wyddgrug a Dinbych. Esboniodd Howard y sefydlwyd y rheilffordd i'r Wyddgrug ac wedyn fe'i estynwyd at Ddinbych. Defnyddiwyd hefyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd i wasanaethu gweithfeydd arfau cyfrinachol Dyffryn Rhydymwyn. Cauwyd y rheilffordd i'r cyhoedd ym 1962 ond parhawyd i'w ddefnyddio i gludo nwyddau cyn belled â'r ffatri Synthite, sydd ar lôn Dinbych, tan 1984. Gobaith Howard yw y gall mwy o'r rheilffordd gael ei ddatblygu, i'w ddefnyddio fel llwybrau cyhoeddus yn y dyfodol ond dywedodd: "Bydd angen trafodaeth hefo'r tirfeddianwyr. Y brosiect i'r dyfodol pellach fuasai agor llwybr drwy Dyffryn Wheeler. Mae yna lôn drwy'r dyffryn ond ar hyn o bryd 'does dim llwybr cyhoeddus a fuasai yn arwain a chysylltu gyda llwybrau cerdded eraill sydd yma yn yr ardal."
 |