Euryn yr athro ail-iaith
Gan Debbie Howard: Mae Debbie yn ddisgybl 6ed dosbarth yn Ysgol Maes Garmon.
Rydw i, Rwyt ti,
Mae o, Mae hi,
Rydyn ni, Rydych chi,
Maen nhw.
Dyma'r geiriau cyntaf rwy' n cofio yn dod o geg Mr Euryn Williams. Roeddwn i'n un ar ddeg oed ar y pryd, a newydd ddod i Ysgol Maes Garmon heb unrhyw Gymraeg ar wahân i "Bore da" a "sut wyt ti?" Mr Williams oedd y person wnaeth ein dysgu - dosbarth bach o bymtheg sut i siarad Cymraeg, a gyda athrawon eraill Ysgol Maes Garmon ddysgodd rhywbeth pwysicach fyth i ni: beth oedd ystyr bod yn Gymry.....
Jôc ffwl Ebrill
Cawsom saith o wersi Cymraeg bob wythnos, ac yn aml cawsom ddwy wers yn syth ar ôl ei gilydd. Er hynny, doedden nhw byth yn ddiflas a doedd yr un wers yn mynd heibio heb jôc.
Un bore, dywedodd Mr Williams bod Mrs Eirian Jones eisiau fy ngweld. Felly, es at y llun-gopïwr i'w gweld ond dywedodd ei bod hi ddim eisiau fy ngweld i. Es yn ôl i'r dosbarth gan deimlo ychydig bach yn gymysglyd, ond wrth i mi agor y drws a gweld y wên ar wyneb pawb, sylweddolais mai Ebrill y cyntaf oedd hi ac roedd rhywun wedi bod yn chwarae jôc arnaf. Chwerddais yn dawel wrth fynd yn ôl i'm set, tra roedd Mr Williams yn esbonio beth oedd wedi digwydd.
Wrth gwrs, roedd Mr Williams yn gallu bod yn ddifrifol hefyd, ac roedd o hyd yn disgwyl bod gwaith wedi ei wneud ar amser. Wrth i mi sylweddoli faint o waith yr oedd o'n ei wneud yn yr ysgol. rwy'n dechrau sylweddoli pa mor bwysig oedd trefn iddo fo. Roedd Mr Williams yn brysur iawn trwy'r adeg.
Er hynny, roedd o dal yn gallu ffeindio'r amser i ddod i Lanllyn efo ni. Yno dysgom fwy o Gymraeg, chwaraeon, gemau a hefyd dysgom ddawnsio gwerin, rhywbeth doedd y rhan fwyaf ohonom heb hyd yn oed glywed amdano. Er hynny, roedd Mr Williams ac eraill yn ddigon hapus i ddysgu'r camau i ni. Pob tro roedd o yna, buasai Mr Williams yn dawnsio efo ni.
Roedd o'n hoffi bod yn actif trwy'r adeg ac roedd yn mwynhau cerdded, canu neu ddawnsio efo ni. Bydden ni'n ei golli'n fawr.
Euryn y dyn Rygbi
Roedd Euryn yn weithgar iawn gyda chlwb rygbi'r Wyddgrug am dros ugain mlynedd - ers i'w blant ymuno â'r Minis ym meysydd chwarae' Mynydd Isa.
Yn ogystal â chefnogaeth fel rhiant, cynorthwyodd Euryn gyda llawer o'r dyletswyddau gweinyddol, pwyllgor a hyfforddi, a llu o ddyletswyddau eraill a fu'n gymorth i'r clwb gael ei nodi gan Undeb Rygbi Cymru fel modd ar gyfer adrannau Mini ac Iau.
Parhaodd cefnogaeth teulu Euryn i fewn i'r Adran Ieuenctid llwyddiannus lle bu tri o' i feibion ei hun yn chwarae a dau ohonynt yn hyfforddi yn ddiweddar. Roedd Euryn yn falch o weld Yr Wyddgrug yn cael ei wahodd i ymuno â'r dethol ym mhrif Gynghrair Ieuenctid Undeb Rygbi Cymru a seiliwyd ar eu record chwarae a chefnogaeth yn 2002/3. Cefnogodd hefyd y tîm hyn yn llawn - y fo a'i deulu yn bresennol bron yn ddieithriad yng ngemau cartref y Clwb.
Yn y 90au diweddar gwasanaethodd Euryn ar bwyllgor rheoli'r Clwb a fo oedd yr ysgrifennydd cynorthwyol yn delio â materion chwarae. Yn ystod y cyfnod hwn, cadarnhaodd y Clwb mai clwb amatur ydoedd wedi cyfnod o arbrofi a bod yn rhannol broffesiynol. Ar yr un pryd derbyniodd y clwb ei rôl fel clwb Cymreig a chadarnhawyd polisi dwyieithog, ac roedd hyn yn agos at galon Euryn.
Parhaodd ei gefnogaeth i bob adran o'r Clwb ac am nifer o flynyddoedd trefnodd gyngerdd Gwyl Dewi er budd y Clwb a'r daith dan un ar bymtheg. Am dros ugain mlynedd, ymunodd Euryn gyda'i gymheiriaid ar nos Wener yn y Clwb am sgwrs, ac i roi y byd yn ei le - er nad oedd neb yn gallu cofio bore Sadwrn sut oedd hi fod.
Gyda chytundeb ei deulu a'r Clwb mae'r cymhreiriaid rygbi wedi noddi gwobr er cof am Euryn i'r 'Aelod Clwb' gyda'r bwriad o'i chyflwyno i chwaraewr ieuenctid sydd wedi amlygu y doniau a welwyd gan Euryn yn ei waith ymroddgar ar ochr chwarae a chymdeithasol y clwb.
Dave James
Bu Euryn yn aelod ffyddlon ac ymroddgar o Glwb Rygbi'r Wyddgrug am bron i ugain mlynedd ers i Siôn ymuno ag adran y Minis. Dilynodd Steffan a Dafydd a mwynhaodd Euryn wylio'i i feibion, yn codi trwy'r adrannau. Bu'n hyfforddi yn adran y Minis am sawl tymor a bu'n aelod o wahanol bwyllgorau.
Roedd yn cefnogi pob agwedd o weithgareddau'r clwb ac roedd wrth ei fodd yn dilyn hynt y chwaraewyr mewn gêmau cartref ac i ffwrdd. Pleser mawr arall iddo oedd mynd ar deithiau a manteisio ar bob cyfle i gymdeithasu.
Geraint Jones
Mae mwy o deyrngedau personol i Euryn Williams yn rhifyn arbennig Mehefin o Papur Fama.