Sian Meirion sy'n derbyn ein clod a'n diolch am ei gwaith gyda Côr y Pentan. Sefydlwyd y Côr gan Sian ryw saith mlynedd yn ôl. Mae'r Côr wedi bod yn brysur yn perfformio ac yn cystadlu gan ddenu pobl ifanc yn aelodau. Erbyn rwan mae'r Côr wedi dod yn fodd i'r bobl ifanc yma gymdeithasu, a hynny, drwy'r Gymraeg. Cyfraniad gwerthfawr arall a wna Sian yw cynnig gwersi cerdd i'n plant ni, sef piano, cello, ffidil a recorder. Mae'n bwysig rhoi cyfle i'n plant ni gael gwersi offerynnol a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae degau o blant wedi, ac yn dal i fanteisio ar hyn. Mae ein hardal ni angen pobl ifanc i fod yn arweinyddion gan fod cynifer ohonynt yn gorfod gadael yr ardal i ddilyn eu gyrfa. Mae Sian wedi aros yn ei milltir sgwâr ac wedi troi ei dawn a'i chariad tuag at gerddoriaeth yn rhywbeth cadarnhaol er budd, ac i ddiogelu ein Cymreictod. Diolch Sian a llongyfarchiadau.
 |