BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Fama
CanhwyllauDathlu tri degawd o Bapur Fama
Ebrill 2009
Tybed faint o ddarllenwyr Papur Fama sy'n cofio'r rhifyn cyntaf erioed yn dod allan ym mis Ebrill 1979?

Mae digonedd wedi digwydd ers hynny. Mae'r genhedlaeth gyntaf o aelodau Clwb y Bobol Bach bellach yn rieni eu hunain, a'u plant yn dilyn ôl traed eu rhieni ac yn aros yn eiddgar am eu cyfarchio penblwydd.

Mae nifer o hen gyfeillion wedi ein gadael, ac rydym wedi croesawu dwsinau o deuluoedd newydd i'n broydd.

Ers y rhifyn cyntaf hwnnw rydym wedi gweld golygyddion, swyddogion, cyfranogwyr, gwirfoddolwyr a gohebwyr llawer rhy niferus i'w cyfri rhwng tudalenau ein papur bro.

Rydym wedi clywed hanes gweithgarwch dwy Eisteddfod Genedlaethol, un Eisteddfod yr Urdd ac un Gwyl Gerdd Dant o fewn ein dalgylch. Gwelsom sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru a darllenwyd am hanes y Fenter Iaith yn tyfu o nerth i nerth. Clywyd hanes degau o ieuenctid y fro yn blasu llwyddiant mewn meysydd amrywiol - nifer yn cael eu denu at oleuadau llachar ein prif ddinas, a sawl un yn dychwelyd i fro bendigedig eu mebyd.

Trwy'r papur cafodd y fro gyfan ymuno yn nathliadau priodasau a genedigaethau niferus.

Dros y blynyddoedd mae Papur Fama wedi cofnodi a chroniclo gweithgareddau lu trigolion cysgod Moel Famau, gan adrodd hanesion difyr, anfon cyfarchion a ffarwelio a thalu teyrngedau i hen gyfeillion. Mynegwyd sawl barn, siom a gobaith rhwng gloriau ein papur ni.

Disodlwyd yr hen deipiadur, y papur a'r glud gan dechnoleg modern yr AppleMac a'r ebost, ond yr un yw'r cyfeillgarwch a estynir i holl ddarllenwyr y papur. Mae Papur Fama wedi goroesi ac yn ffynnu yma ar y ffin. Diolchwn i'r criw dewr a ddaeth ynghyd ar y cyntaf o Dachwedd 1978 gyda'r weledigaeth i ddechrau papur bro.

Diolch Papur Fama - a hir oes i'n papur bro!


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy