| Ymysg perfformwyr yr ŵyl yn y gorffennol mae Robin Lyn Evans (yn y llun), enillydd y Ruban Glas a'r grŵp cerddorol Ensemble Cymru.
Gŵyl Cilcain, oedd yr enw ar yr ŵyl ac mi ddechreuodd fel cyngerdd er mwyn codi arian at Gapel Cilcain yn 1993.
Yn ogystal ag arlwy cerddorol cynhelir nosweithiau barddonol, nosweithiau gwerin, platfform i berfformwyr ieuanc a gweithdai. I wybod mwy, ewch i wefan Gŵyl Fama drwy ddilyn y linc ar y dde.
 |