Wedi cryn lwyddiant dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, a llawer o deithio, ymddangosodd y grŵp lleol The Joy Formidable gyda'r enwau mawr yng ngŵyl Penwythnos Fawr Radio Un yn y Faenol yn ddiweddar. Tri aelod sydd yn y band, dau ohonynt yn blant Yr Wyddgrug a chyn ddisgyblion Ysgol Maes Garmon - Rhydian Dafydd a Rhiannon Bryan - a'r trydydd, sef Matt y drymiwr, o Wolverhampton. Profiad cyffrous iddynt oedd cael perfformio mewn gŵyl mor amlwg yng ngogledd Cymru, er eu bod wedi perfformio mewn sawl gŵyl arall, fel Wakestock, ac yn ymddangos yn Glastonbury am y tro cyntaf eleni. Mae'r tri wedi sefydlu yn Llundain ar hyn o bryd, ond yn galw draw i'r Wyddgrug yn eithaf aml pan nad ydynt yn teithio. Maent wedi teithio llawer iawn dros y ddwy flynedd diwethaf - ar draws Cymru, Lloegr, yr Alban ac Iwerddon - a sawl gwlad dramor. Maent wedi chwarae gyda bandiau enwog fel y White Lies, Editors, Temper Trap a'r Passion Pit. Byddant yn cydweithio gyda Temper Trap a Passion Pit ar eu taith yn Awstralia yn fuan. Recordiwyd y CD 8 trac 'A Balloon Called Moaning' gan y band rhwng Llundain a'r Wyddgrug ac mae wedi denu llawer o sylw a chefnogwyr ffyddlon ar draws y byd, ac yn awr wedi ei rhyddhau ar label Passion Pit yn America. Yn Y Faenol cawsant eu cyfweld gan Bethan Elfyn a Huw Stephens ar Radio 1 a'u canmol yn y Daily Post a'r Western Mail yn ddiweddar. Mae darllenwyr Papur Fama yn falch iawn o lwyddiant dau o'r ardal ac yn dymuno'n dda i The Joy Formidable i'r dyfodol.
 |