| Bu Cynan yn tyfu madarch shiitake, madarch llymarch, ffwng draenog yn ogystal a madarch y maes yn Glan Meirion, fferm sy'n berchen i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Nantmor ers pedair blynedd. Dywed: "Gyda chefnogaeth yr Ymddiriedolaeth, sefydlais lestri pwrpasol i dyfu'r madarch. "Mae marchnad dda i'n cynnyrch ffres yng ngwestai crandiaf Gogledd Cymru yn ogystal a siopau lleol". Cynigiodd un archfarchnad fawr gymryd l00k yr wythnos o'i gynnyrch ond roedd yr archeb yn rhy fawr a'r pris yn rhy isel. Yn hytrach mae'n gwerthu'n uniongyrchol i siopau a bwytai. Mae Cynan wedi dod yn awdurdod ar bopeth i wneud a myceliwm ac mae'n tyfu shiitake er
enghraifft ar gyfer y gegin yn ogystal a'i rinweddau meddyginiaethol. Mae Cynan am ehangu ei
fusnes ac mae'n trafod gyda'r Ymddiriedolaeth er mwyn defnyddio eu cegin yn Craflwyn (sydd ar gyrion Beddgelert) ar gyfer piclo madarch. Graddiodd Cynan mewn Biocemeg a sefydlodd fusnes ariannol cyn gwerthu hwnnw er mwyn canolbwyntio ar dyfu madarch a magu dros 50 o ddefaid. Mae Cyngor Gwynedd wedi cynhyrchu llyfryn i helpu ffermwyr dyfu madarch egsotig... ond mae Cynan wedi cyrraedd o'i blaenau ... llongyfarchiadau mawr i ti oddi wrth Llafar Bro.
Tecwyn Vaughan Jones
 |