BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llafar Bro
Criw wedi hel o amgylch arwydd TanygrisiauPlant Tanygrisiau yn cwrdd â her Coed i Bawb!
Tachwedd 2004
Yr ysgol hon yw yr un cyntaf yng Nghymru i fanteisio ar gynnig Coed Cadw o becyn coed am ddim.

Plant o Ysgol Tanygrisiau yw y rhai cyntaf yng Nghymru i fanteisio ar gynnig pecyn o 30 o goed am ddim, i'w plannu i greu darn o wrych neu brysglwyn. Mae'r cynnig hwn yn cael ei wneud fel rhan o sialens Coed i Bawb, sef menter gan Goed Cadw , prif elusen gwarchod coetir y DU.

Coed i Bawb yw'r sialens plannu coed i blant mwyaf, a mwyaf cyffrous, a welwyd erioed yn y DU. Y bwriad yw ysbrydoli cenhedlaeth newydd i ailgysylltu a byd natur.

Fe fydd Coed i Bawb yn rhoi cyfle i o leiaf miliwn o blant fynd i'r afael a byd natur a chael hwyl yn plannu coed. Gweledigaeth yr ymgyrch yw y dylai pob plentyn gael y cyfle i blannu coed. Fel rhan o'r ymgyrch, plannir 12 miliwn o goed brodorol dros gyfnod o bum mlynedd - sef un ar gyfer pob plentyn o dan 16 oed.

Yma yng Nghymru, mae Coed Cadw yn bwriadu plannu 600,000 o goed, sef un ar gyfer pob plentyn o dan 16 oed, ac yn fwy uchelgeisiol, rhoddir cyfle i o leiaf 50,000 o blant eu plannu nhw.

Mae Coed Cadw yn ddiolchgar i gwmni Rheilffordd Ffestiniog am ganiatáu i'r plant blannu'r coed yn yr orsaf, a helpu i drefnu'r digwyddiad. Fe fydd Rheilffordd Ffestiniog yn gweithio mewn partneriaeth gyda Choed Cadw ym Meirionnydd dros y pum mlynedd nesaf, fel rhan o Brosiect Rheoli Cynefin Coedydd Derw Meirion, sef prosiect a ariannir gan yr UE, i wella cyflwr coed derw hynafol yr ardal sydd yn rhan mor bwysig o'i hetifeddiaeth naturiol.

Dywed Mrs Hazel Hughes, Prifathrawes Ysgol Tanygrisiau: "Mae hwn yn gyfle gwych i'r plant allu plannu coed yn eu cymuned eu hunain, coed y byddan nhw'n gallu eu gweld yn tyfu dros y blynyddoedd. Gobeithio y bydd llawer o ysgolion eraill yng Nghymru yn gallu manteisio ar y cynnig hwn o goed i'w plannu, fel bod eu plant yn gallu mwynhau'r un profiad."

Cafodd y coed i gyd eu plannu mewn bore, a gwir yw dweud bod y plant wedi mwynhau y profiad yn fawr iawn, er bod y gwaith wedi bod braidd yn fwdlyd!


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy