O ganlyniad fe ddangosodd y rhaglen deledu Wedi 7 diddordeb i fod yn rhan o'r digwyddiad ac roedd y cyflwynydd Gerallt Pennant hefyd am abseilio i lawr y graig, ond yn anffodus oherwydd y tywydd garw, ni allwyd cyflawni'r gamp.
Fe ddaeth y criw ffilmio Wedi 7 i fyny i Blaenau yn y prynhawn i ffilmio Simon Williams, Swyddog Prosiect Antur Stiniog, a Ceri Cunnington, Cadeirydd Antur Stiniog a Swyddog Datblygu Cymunedau'n Gyntaf Bowydd a Rhiw, yn son am y prosiect.
Fe benderfynodd y criw fynd i Gwmorthin i
ffilmio gan ei bod yn ardal mor hardd. Yno, fe gychwynnodd Simon a Ceri trwy son am ein hadnoddau naturiol anhygoel, ac am fwriad Antur Stiniog i hybu'r ardal a datblygu diwydiant awyr agored yn lleol ond, er mawr siom a chywilydd i'r ddau ohonynt, roedd y lle'n lIanast llwyr.
Fe gai'r
criw ffilmio drafferth i gadw allan o'r llun yr holl sbwriel oedd wedi cael ei daflu yno - dwy soffa a matras wely ymysg pethau eraill. Roedd y peth yn warth arnom fel trigolion yr ardal.
Fel swyddogion Cymunedau'n Gyntaf Bowydd a Rhiw, rydym yn ceisio datblygu a chefnogi prosiectau cymunedol a fydd yn gwarchod ac yn gwneud defnydd o'n hadnoddau naturiol gwerthfawr trwy brosiectau fel y Dref Werdd ac Antur Stiniog ond mae'r math hwn o lygru anghyfreithlon yn gwneud y gwaith hwnnw'n anodd iawn ac, fel cymuned, ddylem ni ddim dderbyn y sefyllfa ond yn hytrach dynnu sylw'r awdurdodau a'r Heddlu at yr hvn sy'n digwydd.
Mae Cyngor Gwynedd yn cynnig gwasanaeth casglu gwastraff tai, fel hen soffas a matresi, sef y Gwasanaeth Swmpus, felly does dim esgus dros lygru ein hardal hardd!
Mae'r gwasanaeth hwn yn golygu y gall trethdalwyr gael hyd at 5 eitem wedi ei gasglu yn rhad ac am ddim o ddrws y ty, ond ichi roi i Swyddfa'r Cyngor eich enw, cyfeiriad, a phost cod a rhestr o'r eitemau yr hoffech gael gwared ohonynt mewn ffordd gyfrifol. Felly. ffoniwch Swyddfa Cyngor Gwynedd yn Nolgellau ar 01341 422 341 a gofynnwch am Gwasanaeth Gwastraff Swmpus.
Os oes gennych chi fwy na 5 eitem o wastraff, yna gallwch dalu i'r Cyngor am gael gwared a rheini hefyd, am gost resymol, neu gallwch fynd a' ch stwff i safleoedd gwastraff Harlech neu Bala am ddim.
Os gwelwch sbwriel wedi cael ei adael yn rhywle yn anghyfreithlon, neu os ydych yn gweld rhywun yn gwneud y drosedd, cofiwch bod gennych y gallu i wneud rhywbeth yn ei gylch, naill ai trwy gysylltu a'r Heddlu lleol (e.e. PC Dewi Wynne, yr Heddwas Cymunedol ar gyfer ein hardal) neu ag Adran Weinyddol a Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Gwynedd ar 01286 682 728. Nid oes yna esgus dros arllwys sbwriel yn anghyfreithlon! Mae angen i ni warchod ein bro a'i adnoddau naturiol!
Os hoffech ragor o wybodaeth am Cymunedau'n Gyntaf Bowydd a Rhiw, Prosiect y Dref Werdd neu Antur Stiniog, yna cysylltwch a ni yn Swyddfa Cymunedau'n Gyntaf Bowydd a Rhiw, yn yr Hen Go-op ar 01766 832214.
Leah Buckley, Cydlynydd Cymunedau'n Gyntaf Bowydd a Rhiw.