Yn ddiweddar cafwyd awgrym y dylai tref Blaenau Ffestiniog gael ei chynnwys o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri. Er sefydlu'r Parc yn 1951 mae ynddo dwll daearyddol yn ei ganol, ac yn y twll hwnnw
saif Blaenau.
Eithriwyd y dref
yn fwriadol pan gafodd ei sefydlu er mwyn caniatau datblygu diwydiant ysgafn yn y dref i leddfu ychydig ar y diweithdra oedd yn cael ei greu gyda dirywiad y chwareli.
Roedd pryder amser hynny y byddai rheolau cynllunio caeth y Parc yn tanseilio unrhyw gynlluniau i greu gwaith i bobl leol.
Mae holl drefi Gwynedd sydd o faintioli Stiniog wedi eu heithrio yn ogystal am yr un rheswm.
Yn wir mae'r Parc Cenedlaethol wedi adeiladau ei bencadlys modern ym Mhenrhyndeudraeth, ar y stad ddiwydiannol dros y ffordd y hen Ysbyty Bron-y-Garth sydd tu allan i ffiniau'r Parc ... tybed y buasai adeilad o'r fath yn torri eu rheolau cynllunio hwy eu hunain petai wedi ei gynllunio o fewn y Parc.
Dwi ddim wedi clywed am unrhyw dref arall yng Ngwynedd sydd am ymuno a'r Parc
Cenedlaethol ac
yn wir mae rheolau cynllunio i dal i fodoli ac maent mor gaeth ac erioed, mae hyn yn rhan o ethos y Parciau Cenedlaethol.
Ydi hyn yn rhyw fath o gyfaddefiad na ddaw diwydiant ysgafn i Stiniog eto?
Yn yr hinsawdd
economaidd
bresennol, pur annhebyg ond
mae Blaenau ers
degawdau wedi
cael ffatrioedd bach dwad a mynd a hwyrach, gyda'r gobaith y byddant, fel Rehau, yn aros a datblygu. Mynd ddaru'r mwyafrif ...
"Beth yw'r fantais i bobl Blaenau Ffestiniog o fod
yn y Parc Cenedlaethol?
(Mae Llan, Traws, Maentwrog a
Gellilydan yn y Parc o'r cychwyn cyntaf).
Yn ôl y Cynghorydd Gwilym Euros Roberts byddai o fantais anhraethol i
Blaenau fod yn y Parc o safbwynt twristiaeth ac mae'n awyddus i'r dref wneud cais i ymuno.
Yn sicr mae'r dref yn cynnig treftadaeth
ddiwydiannol a diwylliannol arbennig
iawn i'r rhai a fyn chwilio amdano.
Mae'r
hen chwareli eu hunain yn drysorfeydd i'r
archeolegydd diwydiannol ac i ymwelwyr sydd a diddordeb, faint
bynnag o hynny sydd.
Mae'r niferoedd
sy'n heidio i Llechwedd yn brawf fod yr
atyniad hwn mor boblogaidd ac erioed.
Felly twristiaeth ydi gair y dyfodol? Gofyn am newid agwedd sylweddol felly?
Gofyn magu dipyn o hunan hyder ar
dref sydd wedi cael ei phardduo dro ar ôl tro am ei
glaw (ymwelwyr ddim yn hoffi hwnnw!) ac am y tomenni llechi bondigrybwyll.
Yn ystod y
blynyddoedd diwethaf mae tirlun diwydiannol
Stiniog wedi tyfu i fod yn eiconig ac
mae pobl am ei weld yn sicr ...
Roedd yn un o'r deg tirlun mwyaf poblogaidd mewn cystadleuaeth a drefnwyd gan y Western Mail dro yn ôl.
Mae'r Cynghorydd yn cymharu'r tomenni
rwbel a phyramidiau'r Aifft, a wel, gydag
ychydig o farchnata daw pobl yn fwy
ymwybodol ohonynt.
Mae'r tomenni yma
yn anhygoel yn y hynod a dweud y gwir,
er bod trigolion y dref yn gwybod yn iawn am yr aberth a aeth i'w codi gan genedlaethau o'r trigolion.
Mae'r cynghorydd yn 'waxing lyrical' am y dref a diolch am hynny, mae gennym gymaint i fod yn falch ohono yma.
Wrth gwrs pam sydd raid i ni fynd i'r Parc
Cenedlaethol a'i holl reolau ychwanegol.
Nid asiantaeth thwristiaeth mo'r Parc ond mae ei enw yn rhoi statws i'r mannau sydd
oddi mewn i'w ffiniau.
Buasai'r Parc,
mae'n debyg, yn ol y prif weithredwr Aneirin Phillips o blaid cynnwys y dref, ond ara deg mae'r rhod yn troi gyda phethau fel hyn mae'n debyg, digon o amser i bwyso a mesur felly! Rydw'i rhwng dwy farn a'r busnes yma... beth ydach chi ddarllenwyr yn feddwl?
Gyda llaw, dyma ffaith i chi. Gwenithfaen o chwarel Cwt y Bugail sy'n ffurfio waliau a lloriau allanol yr adeilad newydd Hafod Eryri, sydd ar Gopa'r Wyddfa.
Enw hyfryd a wn i ddim pam fod gwefan y BBC yn mynnu ei alw yn 'Snowdon Cafe' ... er hwyrach y mod i!
Tecwyn Vaughan Jones