(Diolch i Dr Gwyn Lloyd, o Ddinbych yn wreiddiol, o Lanfair-ym-Muallt yn awr, am anfon yr hanes diddorol yma imi. Diolch hefyd i Leslie Jones, Benar View, ei frawd-yng-nghyfraith, am ofalu fod yr hanes yn cyrraedd Llafar Bro. Pa mor gyffredin neu anghyffredin yw digwyddiad fel hyn? Oes sgotwr arall wedi cael profiad tebyg?)"Tua phump o'r gloch un bore ym mis Awst 1989, fe godais a rhoddais bar o wellingtons duon dros fy nhrowsus o fan-flew yr oeddwn wedi'i wisgo dros nos fel gwaelod pyjamas, ac allan a mi o'r cwt pysgota, gan faglu fy ffordd i lawr at y llyn, sef Cerrigllwydion Isaf, i bysgota.
Roedd y gwynt yn stormus, a'r glaw yn cael ei chwythu'n wastad ac yn curo'n oer ar fy wyneb. Pan gyrhaeddais y llyn, eisteddais ar fy sodlau a'm cefn i'r tywydd - doedd dim lloches - a meddwl pa fath dacteg i'w ddefnyddio.
Teimlais, am fy mod yn nannedd y ddrycin, ac yn wynebu'r gwynt o'r tir, nafuaswn yn gallu gwneud dim hefo pluen wlyb, felly, dewisais bluen sych - y fwyaf a'r ysgafnaf a'r mwyaf llachar oedd gennyf. Roedd eisiau un drwchus imi gael ei gweld yn y tonnau oedd yn curo'r lan. Felly, COCH- Y-BONDDU amdani, maint 10 neu 11, heb gynffon, a'i chorff o gynffon paun.
Ar y tafliad cyntaf, cynigiodd pysgodyn amdani, ac er fod y lein yn llac, roedd y sgodyn hefyd wedi bachu. Ymladdodd yn dda, ac am nad oedd gennyf rwyd i'w roi tano, rhaid oedd ei flino'n drwyadl, er mwyn imi afael ynddo a'm llaw a'i dynnu i'r lan.
Roedd yn frithyll anolygus iawn, tua 10 modfedd, yn dywyll ei liw, pen mawr hyll, a stumog fel potiwr. Ni welais erioed frithyll tebyg iddo o'r blaen. Gwaethygodd y tywydd, felly, yn ôl a mi i'r cwt pysgota i wneud paned o de i'm cyd-bysgotwyr.
Cododd un o'm ffrindiau - clywed y tegell yn canu mae'n debyg. Daeth i'r gegin a gwelodd y sgodyn. Edrychodd yn fanwl arno a sylwodd fod rhywbeth yn ei geg, a chan ddefnyddio fforc, tynnodd lygoden allan.
Pan edrychais ar y llygoden meddyliais mai llygoden y maes (Microtus agrestis) ydoedd. Mae'n siwr mae wedi disgyn i'r llyn yr oedd a'r pysgodyn wedi ei llyncu'n fyw, cynffon yn gyntaf. Beth sy'n fy synnu fwyaf yw fod y pysgodyn wedi mynd am y bluen, a'r llygoden yn llenwi ei geg a'i wddf, a'i fod eisiau ychwaneg o fwyd.
Mi hoffwn i gael gwybod a yw yn anghyffredin i frithyll mor fach gymryd llygoden? Mesurwyd y sgodyn, ac roedd yn ddeng modfedd a hanner o hyd, ac felly tua deng owns o bwysau. Pwysai'r llygoden tua 20g - oddeutu owns a chwarter. Roedd yn magu rhai bach, a'i stumog yn hanner llawn o fwyd, - ac nid oedd yn gwisgo belt nofio!!"