Ar ôl imi ysgrifennu fy mhwt i rifyn diwethaf Llafar cofiais am un neu ddau o bethau eraill a fyddai'r hen bobl yn ei wneud gyda grug y mynydd yn y blynyddoedd a fu. Fel y gwyddoch, y mae'r planhigyn hwn yn tueddu i fod yn wydn iawn yn y gwyllt ac mae ei frigau cryfaf yn wrthneidiol dros ben, h.y. efo sbring go dda ynddynt. Beth bynnag, rywdro cyn cof, dechreuodd dyn osod grug a phlanhigion tebyg fel gwely i gynnal defnydd trymach er mwyn iddo gael tramwyo tros wlybtiroedd, corsydd a mawnogydd yn ddiogel.
Yn wir, dywedir y bu'n rhaid cludo cannoedd o fwndeli o rug a'u gosod fel carpedi ar hen gors Glan y Pwll lle saif yr hen Orsaf, y Clwb Rygbi, yr Orsaf Dân a safle'r Gwerthwyr Glo heddiw cyn y tipiwyd tunelli lawer o rwbel ein chwareli ar eu pennau a chreu sylfaen gadarn ir adeiladau a chreu iard Stesion London.
Ceir cyfeiriad at Thomas Telford hefyd yn gorfod taclo mawnog ddofn pan oedd yn gwneud darn o ffordd fawr yr A5 ger Cerrig y Drudion. Dyma ychydig o'r hanes rwan o ysgrif 'Ffyrdd Cymru 1816-1826' gan Asiedydd o Walia yn Cymro (O.M.E.)' am y flwyddyn 1914:
Dywed yr awdur y bu'n rhaid .... croesi corsydd sigledig Pant Dedwydd gyda'r ffordd a gorchwyl anodd odiaeth oedd, gan fod yno lathenni lawer o fawndir a hwnnw'n hollol wastad. Nid oedd o un diben cario cerrig nag unrhyw fetel caled iddo oherwydd fe'u llyncid, a'r dull gymerodd of oedd cario poethwal - cidys o boeth wiail (h.y. ffagodau o eithin wedi eu llosgi) o'r mynydd a'u rhwymo'n dynn, a'u gosod ar draws y gors yn ô1 fel oedd gwely'r ffordd i fod a chan godi chwe modfedd at y canol, a gostwng at yr ochrau, yna eu cuddio â cherrig fflat tenau, ac ar y rheiny, palmant o gerrig cryfion a phridd chwe modfedd o drwch a'u gosod a chlo y wal, ac yna, plyg o raean ar y cwbl, ac fe drodd y cynllun yn llwyddiant mawr.
Teisi Grug
Yn y golofn y tro diwethaf soniais ychydig am hel grug a'i ddefnyddio ar gyfer cynnau tan, on'd o? Wel, dyma bwt bach diddorol yn sôn am yr un math o beth allan o un o ysgrifau bardd o sir Ddinbych a ymsefydlodd yn Stiniog ma, sef Evan Williams -Glyn Myfyr', Sgwâr y Parc.
Yn ei atgofion Y Bwthyn lle teuliais fy mebyd' yn Cymru 1918 adrodda'r canlynol am ei hen gartref, Penisa'r Pentref ym mhlwyf Llanfihangel Glyn Myfyr: Dywed ei furiau anghelfydd, ei do o frwyn a gwellt a manrug y mynydd, symlrwydd ei ffurf, ei fod yn gynnyrch awen yr hen Gymry oesau'n ôl.... Mewn rhan arall ceir y cyfeiriad hwn ganddo: Yng nghongl yr ardd, ar fin y ffordd, yn ôl arfer ddarbodus yr hen bobl, byddai tas o rug y mynydd wedi ei chludo cyn yr Hydref i fod yn gyfleus i fy mam gynnau tân a modd i fy nhad brofi llymaid cynnes cyn cychwyn allan at ddyletswyddau cyffredin bywyd; ac yn ychwanegol at fod yn ddefnyddiol ir pwrpas hwnnw byddai hon yn torri min gwyntoedd y gaeaf cyn rhuthro ohonynt ar furiau yr hen gastell ddiaddurn
Rwyf am gloi rwan gyda hen ddoethineb amaethyddol sy'n werth ei gofio, sef yr un am dyfiant ac ansawdd y tir o'n hamgylch, .... ond gyda nodyn ychwanegol .... cofier, y mae defnydd i bob planhigyn a chreadur byw:
Aur o dan y rhedyn
Arian o dan yr eithin
Newyn o dan y grug.