| Arferai grŵp o'r hen ATB fod yn y cylch (Agricultural Training Board), ond bellach mae hwnnw wedi diflannu. Fodd bynnag gan fod arian yn parhau yn y gronfa penderfynwyd ceisio cario ymlaen ar raddfa leol. Ers mis Ebrill mae dau gyfarfod eisioes wedi cael eu cynnal. Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf yn Nhyddyn Merched. Daeth Mr Iwan Parry, un o filfeddygon Dolgellau draw i roi cwrs ar dynnu ŵyn. Daeth nifer o ieuenctid lleol at ei gilydd a chafwyd hwyl yn dysgu ac yn cymdeithasu ar y noson. Roedd Mr Parry fel arfer yn gallu cael y gorau o ymateb y bobl ifanc a phrofodd y cyfarfod i fod yn un effeithiol a difyr dros ben. Yna ynddiweddar aeth ychydig o'r bechgyn draw ar gwrs cneifio i Goleg Glynllifon ar fin nos. Buont yn dysgu sut i ddal dafad yn gywir, sut i ddefnyddio darn llaw y peiriant cneifio, cawsent gneifio dwy neu dair dafad bob un, a dysgu hefyd sut i lapio gwlân wedi ei gneifio. Roedd amynedd di ben draw gan yr hyfforddwyr, ac ni fuont fawr o dro yn dechrau cael trefn ar yr hogia'. Noson eto lle clywyd y criw ifanc yn dweud ar ei diwedd "Dwi wedi joio fy hun heno". Gobeithio y bydd dilyniant i'r ddau gwrs yma, ac y bydd cyrsiau ar bynciau eraill yn cael eu cynnal hefyd yn fuan. Gobeithio yn fawr y gwelir parhad a dyfodol i grŵp fel hwn. Mae o fudd mawr i bobl ifanc sydd â diddordeb nid yn unig mewn amaethyddiaeth ond hefyd ym mywyd cefn gwlad.
 |