| Roedd pawb yn gyfarwydd â hi yn dod o amgylch i gasglu sgrap, ac er iddi, yn anfoddog, roi gorau i yrru ei hun tua deg mlyndd yn ôl roedd yn parhau i gymeryd rhan yn y busnes a diddordeb yn be oedd yn mynd ymlaen. Roedd yn ben ar deulu mawr gyda 113 o orwyrion a wyresau ac 17 o or-or-wyrion. Ei chynghebrwng oedd un o'r rhai mwyaf a welwyd yn Blaenau ers blynyddoedd lawer. Daeth canoedd yno a'r gwasanaeth yn cael ei drosglwyddo i uchelseinyddion iddynt tu allan i'r eglwys. Roedd dwy lori fechan o flodau gan gynnwys torch arbennig iawn ar ffurf carafan sipsiwn. Estynir cydymdeimlad dwys â'i holl deulu. Bydd yn chwith iawn peidio ei gweld o gwmpas.
 |