BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llafar Bro
Elwyn HughesAnrhydeddu un o fechgyn Bevin
Ebrill 2008
Ar ddydd Mawrth y 25ain o Fawrth 2008 fe dderbyniodd Elwyn Hughes becyn drwy'r post.
Roedd yn cynnwys bathodyn yn dynodi iddo wasanaethu fel un o fechgyn Ernest Bevin mewn pwll glo yn Lloegr yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Cychwynnodd cynllun Y "Bevin Boys" ar yr ail o Ragfyr 1943, gyda'r bwriad o gael un o bob deg oedd yn cofrestru i wasanaeth i fynd i weithio mewn pwll glo, gan fod gymaint o löwyr wedi mynd i'r lluoedd arfog.

Gadawodd Elwyn Ysgol Sir Ffestiniog ar y 4ydd o Chwefror ac aeth ar y trên i Stoke on Trent ar y 7fed o Chwefror. Cafodd fis o hyfforddiant yn Kemblepit, Fenton, gan letya yn Longtobr cyn symud i Brown Edge, pentref ar ochr ogleddol y ddinas i gael cartref oddi cartref gyda glöwr a'i deulu tan iddo adael y lofa ar yr 21ain o Fedi 1947, a dychwelyd yn ôl i'r Blaenau.

Mae'n cofio siarad ar ben y pwll un bore cyn mynd i lawr gyda Twm Felin o Aberllefeni (tad y diweddar Rhydderch Jones, y dramodydd enwog) a ddywedodd fod bachgen o 'Stiniog wedi cyrraedd yr hostel lle roedd Twm yn lletya. Cyril Jones o Danygrisiau oedd y bachgen hwnnw, a oedd yn gweithio ym mhwll Bellerton, tua dwy filltir o Chatterley Whitfield ar y pryd.

Diweddodd Cyril ei oes ym Modafon, a cofir ef fel aelod o Gyngor Tref Ffestiniog ar ddechrau'r wythdegau.

Hyd heddiw mae Elwyn, sydd bellach dros ei wythdeg yn ymfalchïo yn y ffaith iddo weithio ochr yn ochr a chyfoedion mor deyrngar i lawr y pwll.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy