Yn y cyfamser, mae'r Pwyllgor Amddiffyn, ar y cyd efo Cyfeillion yr Ysbyty, wedi gosod cynllun gerbron y Bwrdd Iechyd ac wedi anfon copi o'r cynllun hwnnw i'r Gweinidog Iechyd yn ogystal.
Byddwch yn cofio, mae'n siŵr, mai un o brif esgusion y Bwrdd Iechyd dros gau yr ysbyty oedd 'diffyg preifatrwydd i gleifion' pan nad oedd hynny'n wir o gwbwl. Y cam nesaf ganddynt, fodd bynnag, fu troi ward y dynion yn adran ffisiotherapi ran-amser a gyrru'r dynion i ward sydd drws nesaf i
ward y merched.
O ganlyniad, mae dynion a merched, erbyn heddiw, yn gorfod rhannu nid yn unig yr Ystafell Ddydd ond yr un ward hefyd, weithiau! Mae'n amlwg, felly, mai'r hyn a wnaeth y Bwrdd Iechyd oedd mynd ati'n fwriadol i greu 'diffyg preifatrwydd' er mwyn cryfhau eu hachos dros gau'r ysbyty.
Trwy lythyr, mae'r Pwyllgor Amddiffyn eisoes wedi eu cyhuddo nhw o weithredu'n sinigaidd ac yn ddan-din ac wedi anfon copi o'r llythyr hwnnw i'r Gweinidog Iechyd hefyd.
Yn ogystal, ac ar y cyd efo Cyfeillion yr Ysbyty, fe gynigiwyd ateb i'r broblem, sef adeiladu ward newydd sbon ar safle'r maes parcio presennol. Mae'r cynllun, os caiff ei dderbyn, yn mynd i olygu rhywfaint o weddnewid yn yr ysbyty ei hun hefyd, wrth gwrs, ond fe ddeuai mantais fawr arall ohono - fe gai'r ysbyty fynedfa a chyntedd newydd sbon, un llawer amgenach a mwy teilwng na'r drws cul sydd yno'n barod, wedi ei guddio tu ol i ddihangfa dân fler-yr-olwg (gw. yr argraff artistig).
Yn ôl barn arbenigol, fe gostiai'r prosiect ychydig dros £300,000. Mae hynny'n llai na chyfanswm cyflog dim ond 3 o swyddogion y Bwrdd Iechyd dros ddwy flynedd!
Sut bynnag, rhag i gost y cynllun fod yn ormod o fwgan, ac felly'n esgus i'w wrthod, mae'r ddau bwyllgor - y Pwyllgor Amddiffyn a Phwyllgor y Cyfeillion - wedi awgrymu parodrwydd i godi swm sylweddol o arian tuag at ei wireddu.
Dros y blynyddoedd, mae'r ardal hon wedi codi rhai degau ar ddegau o filoedd tuag at achosion da yng Nghymru a thu hwnt ond dichon bod yr amser wedi dod rŵan inni roi ein buddiannau ni'n hunain, am y tro, o flaen buddiannau pawb arall.