BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llafar Bro
Soced trydanGoleuni ym mhen y twnel?
Mai 2007
Faint ohonoch chi sy'n ei gweld hi'n anodd pan mae'r trydan yn mynd i ffwrdd yn ddisymwth yn ystod storm?
Rydych chi'n gorfod byw heb y teledu, meicrodon, cyfrifiaduron, sychwr gwallt a dwsinau o declynnau eraill yr ydym yn eu cymryd yn ganiataol pan mae'r trydan yn gweithio'n arferol?

Dyma hanes Cwm Abergeirw hyd heddiw, cymuned sy'n gorwedd lle tardda'r afon Mawddach yn y mynyddoedd rhwng Trawsfynydd a Dolgellau.

Ond diolch i waith caled preswylwyr yr ardal a chymorth yr awdurdodau lleol a'r cyflenwyr trydan, mae'n argoeli'n dda y bydd gan drigolion Abergeirw gyflenwad arferol o drydan erbyn y gaeaf nesaf.

Mae cymdeithas gyfansoddiadol o'r enw "Menter Egni Abergeirw" bellach wedi arwyddo cytundeb gyda chwmni Manweb Scottish Power i ddod â prif gyflenwad trydan i'r tai yng nghwm Abergeirw sydd erioed o'r blaen wedi cael cysylltiad o'r fath.

Dywedodd Gerallt Jones, Cadeirydd Menter Egni Abergeirw: "Mae cynrychiolaeth o bob cartref yn y cwm sydd heb drydan ar bwyllgor rheoli'r fenter ac mae'r holl gyfarfodydd wedi gwneud y gymuned yn fwy clos gyda phawb yn cydweithio gyda'r un nod. Yn sicr hefyd, mae Cyngor Gwynedd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi bod yn gefnogol iawn i'r cynllun o'r dechrau.

"Mae cryn frwdfrydedd i weld y fenter yn llwyddo ac mae pawb yn y cwm rŵan yn gobeithio'n fawr y bydd y rhwydwaith newydd wedi ei chwblhau erbyn y gaeaf nesaf."

Yn naturiol, mae Abergeirw yn lle digon anghysbell, gyda'r prif ffermydd tua hanner milltir oddi wrth ei gilydd. Yn ystod y 1960au 'roedd rhai tai yn cael eu goleuo gyda nwy ac eraill gyda thrydan a gynhyrchwyd gan eneraduron dîsl. Pan ddaeth cynnig gan gwmni trydan Manweb bryd hynny i gael cysylltiad prif gyflenwad, roedd y mwyafrif yn ei weld yn rhy ddrud ac ni chafodd y ffermydd a'r anedd-dai yn rhan uchaf y cwm eu cysylltu, ac felly y mae byth.

Prynodd un teulu lleol hen gartref y teulu yn 2003 a chafwyd sioc sylweddol pan gafwyd amcanbris o £37,000 i ddod a'r trydan yno o bellter o tua milltir i ffwrdd. Yn naturiol, mae nhw fel y tai eraill yn y cwm bellach yn dibynnu ar drydan drwy'r generadur dîsl.

Ond gall pris prynu a chynnal generadur hefyd fod yn faich ariannol sylweddol - gall pris generadur sydd ddigon cryf i redeg pob dim allech ei fod angen mewn cartref arferol heddiw gostio tua £5,000, yn ogystal â'r gost o adeiladu adeilad pwrpasol ar ei chyfer, a'r gost o'i gosod. Mae'r gost rhedeg wedyn yn gallu bod yn hawdd dros £1,000 y flwyddyn mewn dîsl coch yn unig, heb sôn am gostau cynnal a chadw. Ar ben hynny, mae gennych doriad trydan efallai am 17 awr bob dydd yn y gaeaf ac efallai 22 awr y dydd yn yr haf.

"Mae byw gyda thoriadau trydan o'r fath yn troi eich bywyd arferol a'i ben i lawr. I gadw costau i lawr mae rhaid penderfynu lleihau'r defnydd o'r generadur, a golyga hyn yn y gaeaf eich bod yn ei danio am rhyw awr neu ddwy yn y bore ac wedyn pan mae'n tywyllu min nos," esboniodd Gerallt Jones.

"Mae rhedeg oergell a rhewgell yn hunllefus, oherwydd fel arfer maent yn dod ymlaen ac yn mynd ffwrdd lawer gwaith mewn diwrnod, ac mae taflu bwyd yn dod yn achlysur anorfod. Mae'n anodd iawn hefyd rhedeg sustemau modem gwres canolog, gan eu bod angen trydan bob hyn a hyn, ac ni ellir defnyddio amserwyr ar gyfer gwres a dŵr poeth. Mae'n anodd hefyd i fynd ar y cyfrifiadur yn ystod y dydd, mae'n bosib mynd ar y gliniadur am ychydig gan fod ganddo fatri, ond os ydych eisiau argraffu rhywbeth, byddai rhaid tanio'r generadur!"

Ffurfiwyd Menter Egni Abergeirw yn nechrau 2005 yn dilyn cyfarfod cyhoeddus yn Abergeirw fel yr esboniodd Gerallt Jones, cadeirydd y fenter.

"Bryd hynny, yn y cyfarfod a gadeiriwyd gan Elfyn Llwyd AS, gwelwyd fod cefnogaeth frwd i'r cynllun o gael trydan fforddiadwy i'r cwm gan y cynghorau cymuned lleol, mudiadau lleol eraill, yn ogystal â chynghorwyr Gwynedd yr ardal a'r AC, yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas. Ein nod wrth ddod ynghyd i ffurfio corff cyfansoddiadol oedd i uno adnoddau ariannol y trigolion a cheisio am grantiau gan gyrff cyhoeddus fel bod yr anedd-dai yn cael cysylltiad trydan am bris fforddiadwy.

"Cawsom gymorth ac arweiniad gwerthfawr gan Huw Antur Edwards, swyddog Adfywio Bro Meirionnydd Wledig Cyngor Gwynedd, ac rydym hefyd yn hynod falch ein bod eleni, wedi sicrhau grant am £40,000 gan Gronfa Wledig 1 a weinyddir gan Gyngor Gwynedd, a hefyd grant am £35,000 gan Gronfa Arbrofol Eryri a weinyddir gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri."

Gyda chyfanswm grantiau o £75,000 a'r prosiect wedi ei brisio gan Manweb Scottish Power am £176,750, mae perchnogion y naw tŷ sydd yn y cynllun wedi gorfod cytuno i gyfrannu ychydig dros £100,000 rhyngddynt i fedru bwrw ymlaen â'r fenter.

Y gobaith yw y bydd modd sicrhau fod y naw tŷ yn derbyn y prif gyflenwad trydan erbyn gaeaf 2007.

Ychwanegodd y Cadeirydd: "Mae yna hefyd agwedd gynaladwy i'r cynllun, gan fod pawb wedi ymrwymo i brynu trydan gwyrdd os byddwn yn llwyddianus. Gobeithir hefyd dileu'r llygredd sŵn sydd wedi bod yn nodweddiadol o'r ardal yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf."


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy