BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llafar Bro
Emrys EvansColli Emrys Evans
Rhagfyr 2008
Teyrnged Steffan ab Owain i Emrys Evans
Anodd iawn yw cyfleu cyfeillgarwch a chwmnïaeth wyth mlynedd ar hugain a mwy mewn ychydig eiriau, yn enwedig pan 'rydych yn sôn am gyfeillgarwch gwr arbennig fel Emrys Evans.....ac felly rhyw air neu ddau o ffarwel iddo sydd gennyf.

Deuthum i adnabod Emrys yn gyntaf trwy gymryd diddordeb mewn plu 'sgota lleol a'r enwau swynol sydd gan hogia 'Stiniog arnynt.

Prin y gwyddwn y pryd hynny fy mod yn siarad ag arbenigwr yn y maes, ac un oedd wedi gwneud cannoedd ohonynt dros y blynyddoedd.....ac wedi dal pysgod efo nhw....a physgod yn werth eu dal, cofiwch!

Mae'n siŵr bod y cyfeillion a fyddai'n pysgota efo fo yn cydweld a hyn!

Yn raddol, ac fel y daethom i adnabod ein gilydd yn well, arweiniodd un peth at rywbeth arall, ac yn y man at amryw o gyd-ddiddordebau .. ..sawl un a dweud y gwir.

Fel y gwyr y mwyafrif ohonoch, roedd yn Gymro i'r carn a charai ei iaith yn fawr iawn.

Ymddiddorai mewn sawl maes ond y pethau a roddai'r mwynhad mwyaf iddo, ar wahân i'w deulu, wrth gwrs, oedd pysgota, byd natur, byd hanes, hynafiaethau ac archaeoleg, llenyddiaeth a barddoniaeth , llen gwerin, geiriau llafar gwlad ac ymadroddion y werin .. heb anghofio crefydd a phynciau diwinyddol a oedd tu hwnt i'm dealltwriaeth i yn aml iawn.

Heb os nac oni bai, 'roedd yn hyddysg yn ei Feibl a phan oeddwn isio esboniad amryw ddywediad Beiblaidd, megis 'swn ym mrig y morwydd' neu 'Cyfraith y Mediaid a'r Persiaid' ato fo y byddwn yn troi a chael yr ateb o fewn dim hefyd.

Prin fod angen dweud wrthych ei fod yn hoff iawn o ysgrifennu. Oedd, 'roedd 'inc yn ei waed' a phrofa'r holl erthyglau, ysgrifau, straeon a hanesion, llyfrynnau a llyfrau nad pethau sych a di-flas a ysgrifennai, chwaith.

Faint ohonoch alwodd heibio ei gartref a'i aflonyddu tra roedd wrthi yn ysgrifennu, mi wnes i sawl tro!

Yn aml iawn, byddai rhyw ysgrif, neu ryw ddrychfeddwl wedi dod i'w ben ac roedd am ei daro i lawr ar bapur neu yn ei ddyddiadur, oni byddai ?

Ysgrifennodd Emrys ei golofn Sgotwrs Stiniog yn Llafar Bro yn ddi-ffael am dros ddeng mlynedd ar hugain a chofnododd enwau'r plu 'sgota rheiny y soniwyd amdanynt ar y dechrau yn ogystal a rhoi cyfarwyddiadau ar sut i'w gwneud nhw.

Byddai'n poeni ar adegau, beth fyddai'n ei ddweud yn y golofn dros dymor y gaeaf, ond llwyddai i roi tamaid blasus ar dudalen ôl ein papur bro yn fisol.

Roedd yr un peth yn wir amdano gyda chylchgrawn ein Cymdeithas Hanes, sef 'Rhamant Bro'.

Ef oedd y prif olygydd o'r dechrau, a gallwn ddeall hynny gan fod y ddawn ganddo i ddewis a dethol erthyglau difyr ar ein cyfer.

Y mae'r cylchgrawn wedi mynd o nerth i nerth tros y blynyddoedd dan ei olygyddiaeth .. a llawer un eisiau gweld dau rifyn neu dri yn ymddangos yn flynyd¬dol!

Yn wir, fel y deuai'r rhifyn diweddaraf allan byddai yn fy holi ... be' rown ni yn y nesaf, dwad ? A finnau'n cwyno nad oeddwn wedi cael fy ngwynt ataf eto !

Rhag ofn nad oes rhai ohonoch yn gyfarwydd a'i waith. . ..amrywia ei gyhoeddiadau o storiâu plant fel Aur Plas y dŵr a Smwtyn y mochyn bach busneslyd i'r gyfres boblogaidd am Dafydd ap Siencyn pencampwr y saeth ar gyfer rhai yn eu harddegau.

Wedyn, ceir rhai ar gyfer oedolion megis Ar Wib a Criw Diddan Dwr Ger lle cawn gipolwg ar ei hoff chwarel y Graig Ddu, ac wrth gwrs, roedd rhaid cael rhai ar bysgota yn 'doedd.. Dal Pysgod, yn un , a 'Llyfryn Canmlwyddiant Y Gymdeithas Enweiriol' yn un arall ond rhag ofn ichi feddwl mai pethau difrifol a dwys sydd ganddo darllenwch ei lyfr 'Hwyl Stiniog. Byddai Emrys yn ei elfen yn dweud hanesion digrif am Now'r Rallt neu Robin Jolly neu Jac Llan.

Byddai'n gallu tynnu coes hefyd ac weithi¬au byddai'n hwyl rhyngom pan fyddai o'n canmol tywydd y Manod a'i fod yn llawer gwell na'r tywydd a gawn i yng Nglan-y-Pwll!

Roedd yn hoff o gymdeithasu, a rhai o'i hoff gymdeithasau oedd Cymdeithas Enweiriol y Cambrian a Chymdeithas Y Fainc Sglodion - credaf mai ei syniad o oedd yr enw. Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog, Fforwm Plas Tan-y-Bwlch, Cymdeithas Edward Llwyd ,Cymdeithas Llafar Gwlad, Cymdeithas Ffynhonnau Cymru i enwi dim ond ychydig .

Cawsom lawer o bleser ar deithiau Cymdeithas Edward Llwyd dros y blynyddoedd a'r ddau ohonom yn awchu am ddys¬gu rhywbeth newydd o hyd.

Yna, crwydro'r mynyddoedd yn tynnu lluniau hen chwareli neu ymweld a'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, galw i'r Archifdai yn Nolgellau, Caernarfon, ac i weld Einion yn Archifdy'r brifysgol a chael pleser mawr yn darganfod rhyw wybodaeth newydd am yr hen fro neu ei chymeriadau. Dyna'n hanes ni yn aml.

Credaf fod hyn yn rhoi un wedd ichi o gymeriad Emrys.

Wrth gwrs, roedd sawl gwedd ddymunol arall iddo fel y gwyddoch.

Hoffai gloi fy nheyrnged iddo gyda rhai o'r geiriau y clywais cyfeillion ac adnabod yn eu dweud yr wythnos diwethaf 'ma: - "cydymaith difyr onid oedd? Mae'r atgofion amdano yn felys dwi'n siŵr. Roedd cael ei adnabod yn bleser. Bydd hi'n chwith inni a'r ei ôl. Roedd yn batrwm inni i gyd. Roedd yn ŵr bonheddig a diymhongar."

Hoffwn innau ategu'r geiriau uchod pob gair ac ychwanegu.. roedd hi'n fraint cael ei adnabod a dod yn un o'i gyfeillion pennaf. Steffan ab Owain


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy