Cynhaliwyd aduniad cynddisgyblion a chyfeillion Ysgol y Moelwyn ym Mhlas Tan-y-Bwlch, a mwynhawyd gwrando ar Mered yn hel atgofion yn ffraeth iawn a chlywyd chwerthin iach.
Cyfarfu ffrindiau ysgol ar ol chwe deg o flynyddoedd. Bu cymdeithasu hyfryd dros fwyd cartref blasus dros ben ac yna cafwyd mwy o atgofion gan Gwyn
Thomas ac adroddodd un o'i gerddi, "Cymylau Gwynion", yn disgrifio rhai o
gymeriadau'r fro. Dyma'r arlwy a gafwyd yng nghinio'r cyfeillion yn Plas Tanybwlch
ddechrau Chwefror.
Arbrawf oedd hwn ar gais y cyfeillion yn 'Steddfod Fflint a daeth chwe deg ohonom o bob cwr o Ogledd Cymru ac un o Gaerdydd.
Clywed am y digwyddiad drwy ffrindiau, perthnasau a'r hysbys yn Llafar Bro wnaeth pawb gan fod nifer y Cyfeillion yn rhy luosog i lythyru ac hefyd, chwe deg pump oedd y mwyafrif oedd Tanybwlch yn gallu gymeryd. Diolch i Emlyn Edwards, Wrecsam, am drefnu'r lleoliad ac i bawb a gynorthwyodd mewn unrhyw fodd i wneud yr achlysur yn llwyddiant. Cyndyn oedd pawb i ymadael ar ddiwedd y p'nawn a llwyddodd rhai i wylio'r gem rygbi cyn cychwyn am adra! Gwneir penderfyniad os byddwn yn cael achlysur fel hwn eto yng nghyfarfod y Cyfeillion yn 'Steddfod y Bala 2009. Edrychwn ymlaen i ailgyfarfod bryd hynny.
Sian Arwel Davies.
 |