BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llafar Bro
Yr hen Go-opLleisiau yn yr hen Go-op
Mai 2003
Wedi misoedd o sefyll yn wag mae drysau'r hen Go-op ar fin agor unwaith eto. Mae BBC Cymru wedi rhentu'r adeilad tan ddiwedd Gorffennaf ar gyfer cynllun fydd yn gwneud Blaenau Ffestiniog yn ganolbwynt darlledu BBC Radio Cymru am wythnos ym mis Mehefin.
Yn ystod wythnos olaf y mis bydd Jonsi, Hywel a Nia, Dylan ac Owain ac C2 i gyd yn cael eu darlledu oddi yno a bydd croeso i bawb ohonon ni daro i mewn atyn nhw.

Ond dim ond un rhan fach o gynllun Lleisiau ydi'r wythnos honno o ddarlledu cenedlaethol. Dim ond un partner yn y fenter ydi BBC Cymru, mae na nifer dda o bobl leol eisoes wedi bod mewn cyfarfodydd i drafod y fenter.

Ond tydi hi ddim yn rhy hwyr! Mae 'na wahoddiad i bawb ohonom ni, yn unigolion, yn gymdeithasau neu fudiadau ymuno yn y gweithgareddau.

Os bydd Jonsi a'i debyg wrth y meicroffon yn ystod wythnos olaf Mehefin, mi fydd na dalentau lleol yn dangos eu doniau wrth yr un meicroffon yn ystod y mis.

Mae'n fwriad i ni gael darlledu'n lleol o'r hen Go-op hefyd. Gobeithir darlledu rhaglen awr a hanner i ardal y Blaenau bob nos rhwng hanner awr wedi chwech ac wyth am wythnos os nad pythefnos. Sêr y rhaglenni hynny fydd pobl leol, pobl ifanc, plant, pobl o bob oed - chi efallai - does dim ishio bod yn swil.

Mi fydd yr hen Go-op ar agor yn ystod y dydd a chyfle i ni gyfrannu i dudalen ar y we am Lleisiau Blaenau, gan gynnwys congl atgofion a hanes lleol, congl i ddweud eich barn, i farddoni i dynnu llun neu i wneud dim ond siarad.

Bydd croeso mawr i bobl ddod a lluniau ac atgofion efo nhw, a gellir gwneud copi o'r lluniau yn y fan a'r lle a'u gosod ar y we, ynghyd a stori tu ôl i'r llun. Neu os mai dyna fydd yn mynd a'ch ffansi, mae na fwriad arall i ddod a chopïau o hen raglenni wnaed am yr ardal, rhaglenni teledu a radio, a chewch eistedd yno yn cofio hwn a hwn neu hon a hon ddaliwyd mewn llun neu raglen radio beth amser yn ôl.

Mae na lu o weithgareddau yn cael eu cynllunio ar gyfer y ddau fis nesaf, offerynwyr o gerddorfa BBC Cymru yn cynnal ambell weithdy, creu wal graffiti, creu murlun ac unrhyw beth arall sydd yn mynd a ffansi pobl y fro.

Mae na rai o bobl y fro eisoes wrthi yn creu straeon digidol i'w dangos ar wefannau'r BBC. Lle i ni gael clywed lleisiau'n gilydd, a ffordd i Gymru benbaladr glywed ein lleisiau ni fydd yr hen Go-op yn ystod y misoedd nesaf.

Un o binaclau'r cynllun fydd gwyl fawr Lleisiau'r Blaenau ar y 14eg o Fehefin ar gae Glanpwll, gobeithio. Mi fydd na lwyfan mawr gydag adloniant amrywiol arno am dair i bedair awr, y bwriad yw clywed bandiau lleol, y bandiau pres, y corau a llu o artistiaid gorau'r fro, i gyd yn perfformio ac yn cael eu darlledu ar BBC Radio Cymru.

Yna fel rhan o'r wyl gobeithio bydd gweithgareddau chwaraeon a gweithgareddau gan fudiadau cenedlaethol, heb son am lu mawr o weithgareddau gan fudiadau lleol.

Os ydach chi yn cynrychioli mudiad neu gymdeithas leol ac eisiau trefnu gweithgaredd ar y cae i godi arian neu er mwyn ennyn diddordeb rhywun, mae croeso cynnes i chi fod yn rhan o Lleisiau. Galwch yn yr hen Go-op, bydd ar agor o fewn ryw wythnos, neu cysylltwch â John Roberts (07752 451496) cynhyrchydd Lleisiau, ar ran BBC Cymru, mae o hyd y dref fwy neu lai bob dydd, a tydi o ddim yn brathu, neu ynglyn â deunydd ar y we, gyda Glyn Evans (01248 374964).


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy