| Mae'r wefan, sydd yn galluogi clybiau a grwpiau lleol i olygu a diweddaru eu tudalennau eu hunain, yn boblogaidd iawn gyda phobl sydd wedi mudo o'r ardal, gyda nifer ohonynt wedi cofrestru fel aelodau o gymuned ar-lein y wefan. Mae Dafydd Denovan bellach yn byw yn Scunthorpe, ond mae wedi cadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau yn y Blaenau. "Cefais fy magu yn Isallt, gan mai fy mam oedd y nyrs ardal a'r fydwraig ar gyfer Blaenau. Fe ddaeth gweld y lle fel caffi â gwên i'm hwyneb ar fy ymweliad diwethaf ", meddai. "Fe fwynheais baned o de gan feddwl am yr holl hwyl oedd i'w gael yno; fe oedd hefyd yn glinig deintydd, canolfan ambiwlans, a chlinig babanod gyda'r nos!"
Fe fydd Dafydd yn cadw golwg ar hanesion Blaenau. "Mae cyfneither fy mam, sydd yn byw yn y Sgwâr, yn anfon Llafar Bro ata!" eglurodd, "a byddaf yn ceisio cael cipolwg ar y wefan bob wythnos fel bod gennyf ddigon i'w ddweud pan fydda i'n ffonio fy chwaer am sgwrs."
Mudodd un arall o'r cyn-drigolion, sef Iona Kay (ne Davies), i Seland Newydd ym 1972. "Mae fy mam yn byw yn Rhiw o hyd," meddai Iona, "ac mae fy chwaer a'i phlant i gyd yn yr ardal". Mae Iona yn defnyddio'r rhyngrwyd i ddilyn hanesion lleol, megis hanes ei ffrindiau yn Seindorf yr Oakley yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd.
"Dwi'n credu bod y wefan yn werth ei gweld" meddai "ac mae'n grêt cael gweld cymaint o luniau diddorol a diweddar."
Mae athro o Kansas City hefyd wedi yn defnyddio'r wefan wrth wneud gwaith ymchwil ar gyfer llyfr mae'n ei ysgrifennu am dri ar ddeg o awyrenwyr yr Ail Ryfel Byd sydd wedi eu claddu mewn mynwent yn yr Iseldiroedd. Mae'r Athro Wilfred Arnold wedi olrhain un o'r awyrenwyr, sef Bleddyn Lloyd "Taffy" Roberts, i'r Blaenau ac wedi postio apêl am fwy o wybodaeth ar y wefan. "Rwyf wedi cael help garw gan y gymuned," meddai'r Athro, a ddarganfyddodd fod un o'r hogiau hynny yn un o 54 sydd yn cael eu cofio ar blac llechan y tu allan i Ysbyty Goffa Ffestiniog.
"Ni chofnodwyd ei oedran gan Gomisiwn Beddau'r Gymanwlad, ond mae llun dosbarth ysgol o 1934 yn awgrymu nad oedd ddim hŷn nag ugain oed."
Mae'r wybodaeth yma wedi galluogi yr Athro Arnold i lunio darlun llawnach o'r awyrenwyr ac mae'r llyfr yn debyg o fod yn deyrnged deilwng iddynt oll. Mae Hefin Williams, Deudraeth Cyf, a ddatblygodd y wefan fel rhan o brosiect Cymunedau Cysylltiedig wrth ei fodd fod cymaint o bobl yn ei chael yn ddefnyddiol. "Mae hwn yn gyfle i bobl sydd â chysylltiad â'r ardal i deimlo yn rhan o'r gymuned, hyd yn oed os ydynt yn byw yr ochr arall i'r byd," meddai.
 |