| Er enghraifft, pwy o blant Stiniog heddiw sy'n gwybod mai rhywun digywilydd iawn ydi'r un a gaiff ei gymharu i 'wagan gynta'r run'? Neu mai rhywun wedi gneud llanast o betha ydi'r un sydd 'wedi gyrru'r wagan dros ben doman'? Neu bod 'cael pen bàr' yn gyfystyr â chael ail, neu faglu trwy flerwch? Roedd rhain i gyd yn ddywediada-pob-dydd rai blynyddoedd yn ôl, pan oedd bri ar y chwareli. Gair cyffredin arall ers talwm, ond un na chlywais ei ddefnyddio ers tro byd bellach, oedd 'wàs', Yn yr ardal yma, mi fyddai'n arferol cyfarch ffrind neu gydnabod trwy ofyn 'Sut wyt ti, wàs?' Mae ystyr hen iawn i'r gair, yn tarddu o 'gwas' yn golygu 'gŵr ifanc' (nid y Saesneg servant, sylwer!). Doir ar ei draws yn eitha amal yn chwedlau'r Mabinogi, er enghraifft. Yr un gair yn union yn ei darddiad ydi'r 'wa' ('Sut wyt ti wa?') sy'n dal ar dafod leferydd pobol y Bala, a'r 'washi' ('ngwas i) a geir o hyd yn Sir Fôn. Chwith meddwl ein bod ni, yn yr ardal yma, wedi colli gafael arno. A be am rywbeth fel 'Sut wyt ti ers talwm, 'achan'? Neu'r ebychiad 'Achan, achan!' i fynegi syndod? Mae hwn, wrth gwrs, yn tarddu o'r gair 'fachgen' ond erbyn heddiw mae'r defnydd ohono yntau hefyd yn prysur farw o'r tir. A be am 'stêm' a 'hanner stêm' am ddiwrnod neu hanner diwrnod o waith? Oes geiria neu ddywediada eraill i chi'n ffeindio'u colli? Os oes, yna cyfrannwch i golofn Llafar Bro. Neu ewch i adran Lleol ar iaith a thafodiaith.
 |