BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llafar Bro
Ieuenctid Ysgol Sul Moreia, TrawsfynyddMasnach deg
Mehefin 2009
Fore Sul, Mai 17eg, yn ystod cyfnod Ysgol Sul Moreia Capel y Fro, Trawsfynydd, bu dosbarth y bobl ifanc yn brysur iawn yn cynnal stondin o nwyddau Masnach Deg.

Ers iddynt ddechrau cyfarfod fel dosbarth o bobl ifanc ym mis Medi, mae'r criw bychan brwdfrydig wedi dangos awydd i fod yn ymarferol yn y gweithgareddau y maent yn ymwneud a nhw.

Un o'r syniadau oedd ceisio hybu pryniant nwyddau Masnach Deg ymhlith aelodau'r capeli, ac un ffordd o wneud hyn oedd dod a'r nwyddau'n uniongyrchol atyn nhw.

Dechreuwyd cyn y Nadolig gyda Bore Blasu ble cafodd aelodau'r Ysgol Sul, o'r ieuengaf i'r rhai hyn, gyfle i brofi gwahanol nwyddau fel coffi, sudd ffrwythau, sioc1ed, myffins, bisgedi a.y.y.b.

Roedd hyn yn fodd o godi ymwybyddiaeth a galluogi pobl i wneud dewisiadau yn y dyfodol.

Dros y Nadolig bu'r bobl ifanc yn derbyn archebion cardiau Nadolig, anrhegion a bwydydd ac yna'n eu dosbarthu ymhlith ffrindiau a rhieni , a gwnaed yn agos i £500 yn ystod y tymor.

Dyma'r ail waith i'r dosbarth gynnal siop yn ystod yr Ysgol Sul ac mae wedi bod yn llwyddiannus iawn, gyda chefnogaeth o blith Y plant, dosbarth hyn yr Ysgol Sul a'r rhieni.

Y tro hwn gwnaethpwyd £104.65 o fewn y tri chwarter awr.

Mae cyfle i brynu pob math o nwyddau, e.e. papur cegin, siocled, pasta, olew olewydd, te a choffi, mel a grawnfwyd, yn ogystal ag archebu nwyddau o'r catalog nad ydynt ar gael ar y diwrnod.

Gobeithia'r dosbarth ei wneud yn ddigwyddiad rheolaidd yn y dyfodol ac maent i'w canmol am eu brwdfrydedd a'u ffyddlondeb.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy