| Gwnânt hyn mewn gorymdaith drwy'r dref o siop Somerfield hyd Ffordd Tywyn gan saliwtio torch ar adeilad Physiotherapy ac yna ymlaen i Eglwys Dewi Sant. Ar ôl gwasanaeth aethant yn eu blaen ar hyd y Stryd Fawr lle cymerodd Llywydd y Lleng Brydeinig, y cynghorydd Owen Edwards, y saliwt ynghanol y dref. Ymysg y rhai a gymerodd ran oedd llywyddion o'r cymdeithasau arfog, y Cyngor Tref, boneddigion a boneddigesau y Dref, staff yr Ysbyty a chymdeithasau eraill gyda Band yr Oakeley. Hefo'r tywydd yn ffafrio, daeth yr Orymdaith at Ysbyty Goffa'r Dref ychydig cyn yr unfed awr ar ddeg lle roedd llawer iawn wedi ymgynnull i gymryd rhan yn seremoni o osod y torchau ar y gofeb. Gyda'r Parchedig Graham Johnston yn gweinyddu gosodwyd cymaint â 30 o dorchau i anrhydeddu'r gofeb hon, ac yna mewn gwasanaeth yn canlyn yn Rhiwbryfdir gosodwyd 3 torch ar y gofeb honno. Dymuna'r Lleng Brydeinig ddiolch hefyd i'r Cynghorydd Arwel Jones, Cadeirydd Cyngor Gwynedd am ddewis gosod torch y Cyngor ar y gofeb wrth yr Ysbyty. Roedd yn achlysur hanesyddol i'r Lleng oherwydd dyma'r tro cyntaf i unrhyw Gadeirydd o Gyngor Gwynedd osod torch ar gofeb yn Blaenau Ffestiniog. Hefyd roedd y Lleng yn croesawu torch arall newydd, sef torch y Malayan Veterans gafodd ei gosod gan Melfyn Hughes o Jones Street. Hoffwn hefyd ddiolch i bawb ddaru gymeryd rhan yn y Gwasanaeth yn yr Eglwys. Diolch i Ficer y Lleng Brydeinig, y Parchedig Graham Johnson, i Mr Hefin Davies am y darlleniad, i Mrs Ann Griffiths, warden yr eglwys, am y gweddïau, ac i gynrychiolaeth o 5 Standard Bearers (Baneri): Y Lleng Brydeinig, Y Royal Welch Fusiliers, Y Royal Navy, Y Normandy Veterans a'r Burma Star. Diolch hefyd i Mr Alan Jones o fand yr Oakeley am ei chwarae gwefreiddiol o'r Last Post a Reveille oedd yn datgan 2-funud o ddistawrwydd er 'Cofio', yna anerchiad gan Mr J. D. Roberts ~:-Mr George Hughes o'r Exhortation a'r Kohima yn y Gymraeg a'r Saesneg. Y Cadoediad Ar y Dydd Gwener - Y Cadoediad - ar yr 11eg awr, ar yr 11eg diwrnod o'r lled Mis cafwyd gwasanaeth byr o flaen y gofeb wrth Ysbyty'r Dref dan arweiniad y Parchedig Graham Johnson o Dremadog lle darllenodd y Parchedig Arwel Jones allan o Lyfr Mica 41-5 ac yna cafwyd 2 funud o ddistawrwydd hefo'r baneri'r RWF a'r Llynges wedi eu gostwng. Yn cario'r baneri oedd Mr Mike Jennings (RWF) ac Arwel Williams (Llynges). Dio1ch hefyd i'r Parchedig Wayne Hughes a Father Hynes am eu presenoldeb
 |