| Mae bron i hanner mis Medi wedi llithro heibio - I ble mae'r tymhorau pysgota'n diflannu, deudwch? - ac yr ydym erbyn hyn yn y rhan o'r tymor pysgota pryd yr arferai rhai o Sgotwrs Stiniog fynd i lawr i Afon Glaslyn i bysgota am sewin. Y rhan o'r afon a ffafriai y rhain i'w bysgota yn oriau'r tywyllwch oedd y darn gwastad lle llifai'r afon yn o araf y tu isaf i Nanmor, - y darn a elwir yn 'Pant y Dŵr Oer'. Am ryw reswm tydi hwn ddim mor boblogaidd ag a fu. Mae y nifer a oedd yn arfer anelu am yr Afon Glaslyn i chwilio am sewin wedi mynd yn ambell i un erbyn hyn. Rhan o apel sgota am sewin yn Afon Glaslyn (a'r Afon Dwyryd hefyd, o ran hynny) i mi yw ei fod yn pysgota gwahanol i bysgota am frithyll llynnoedd y mynydd. Fel arfer byddem yn dechrau crwydro i lawr at y Laslyn fel y byddai'r pysgota nos yn dirywio yn y llynnoedd, - weithiau mor gynnar a hanner olaf mis Gorffennaf. Nifer o flynyddoedd yn ôl bellach deuthum i adnabod Edgar Owen, Pentrefelin, a dod yn dipyn o lawiau hefo fo. Edgar yr adeg honno'n giper hefo'r Awdurdod Dŵr. Cofiaf iddo alw heibio imi un noson, pan oedd yn yr ardal, am sgwrs a phaned. Aeth y sgwrs i gyfeiriad 'plu sewin', a rhoddodd batrwm pluen imi a oedd a gair da iddi yn Afon Glaslyn. Wedi cael y patrwm gan rywun oedd Edgar, ac yn gofyn a wnawn i ei chawio hi iddo. Ers imi gael ei phatrwm, ei chawio a'i physgota, a hithau wedi denu sawl sewin i'r gawell, rydw i wedi mynd i alw'r bluen yn 'Pluen Sewin Edgar Ciper'. Y darn uchod wedi ei gymryd allan o Sgotwrs Stiniog, Llafar Bro mis Medi
 |