BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llafar Bro
Golchi clustiau'r eliffantProfiad i'w gofio
Ionawr 2009
Yr adeg yma llynedd, roeddwn a'm bryd ar fynd i Brifysgol i astudio'r gyfraith ond, yn sydyn reit, newidiais fy meddwl.

Penderfynais nad oeddwn eisiau mynd i'r Brifysgol wedi'r cyfan, ond fy mod am deithio am flwyddyn cyn parhau gyda fy addysg.

Dechreuais chwilio ym mhobman am gwmnïau oedd yn cynnig teithiau tramor ac o'r diwedd cefais hyd i daith i Nepal. Perffaith.

Felly, bum mis yn ddiweddarach, roeddwn yn sefyll ym maes awyr Manceinion yn deud ta-ta eitha dagreuol wrth Mam a Dad ac yn eistedd ar yr awyren i Kathmandu.

Pan gyrhaeddais, a chael taxi i'r tŷ lle roeddwn am aros am wythnos, roedd popeth mor wahanol i adref.

Swn traffic mawr, arogl masala ym mhobman, lliwiau gwahanol ar bob cornel. Roeddwn wrth fy modd, a dim ond fy niwrnod cyntaf oedd hi!

Yn ystod fy wythnos gyntaf cefais i a dau wirfoddolwr arall gyfle i ddysgu ychydig o'r iaith gan athrawes Nepali leol. Cawsom fynd o gwmpas Kathmandu i weld y temlau Hindw a Bwdaidd, bwyta Daal Bhat (y bwyd traddodiadol Nepali, sef reis, cawl lentils a llysiau mewn cyri) a gweld bywyd teuluoedd Nepali o ddydd i ddydd.

Ar ôl wythnos yn Kathmandu, penderfynais i a gwirfoddolwr arall fynd i ardal o'r enw Chitwan, i bentref bach, er mwyn helpu yn yr ysgol leol i ddysgu Saesneg.

Profiad gwerth chweil oedd dod i adnabod y plant a theimlo ein bod yn gwneud gwahaniaeth.

Arhosais yno am bedwar diwrnod cyn symud i bentref arall a gwneud 'Jungle Safari'. Am hwyl! Cawsom reidio ar gefn eliffant, gweld rheinos gwyllt, rhoi bath i eliffantod yn yr afon, a. chanwio wrth ymyl alligators! Yna, ar ôl tri diwrnod o safari, aethom yn ôl i Kathmandu ar hen fws a oedd wedi gweld dyddiau gwell.

Ar ôl diwrnod o orffwys, roedd yn bryd i mi a gwirfoddolwr arall hedfan i Lukla er mwyn dechrau ein taith gerdded i droed Everest.

Roedd hedfan trwy'r Himalaya yn brofiad anhygoel a chawsom olygfa wych o'r mynyddoedd!

Yna, roedd 12 diwrnod 0 gerdded pump i chwech awr y dydd yn ein hwynebu. Aethom trwy bentrefi o'r enw Phakding, Namche Bazaar, Tengboche (lle cefais ddathlu fy neunawfed penblwydd), Periche, Louboche, a Gorak Shep sef pen y daith. O Gorak Shep roedd taith gerdded am tua dwy awr arall, cyn cyrraedd Base Camp, o'r diwedd!

Er fy mod wedi cael salwch uchder, roeddwn mor falch o gyrraedd!

Ar y trek, roedd y golygfeydd yn wych, yn enwedig pan welsom Everest am y tro cyntaf, ar fy mhenblwydd! Dyna anrheg na wna i byth ei anghofio!

Cyrhaeddais yn ôl yn Kathmandu tua diwedd mis Medi, ac roedd gennyf fis arall ar ôl. Felly, gwirfoddolais i weithio mewn mynachdy ar gyrion Kathmandu am fis, a dyma'r profiad gorau a gefais yn Nepal.

Roedd y mynaich yn groesawgar a chlên ac yn gwneud unrhyw beth i'm gwneud yn hapus.

Yn y mynachdy, roedd 50 mynach yn byw, 45 o fynaich ifanc rhwng 6 ac 19, a 5 mynach hyn yn edrych ar eu hol.

Roeddwn yn disgwyl i'r mynaich ifanc fod yn dawel a heddychlon ond cefais sioc. Roedd pob un ohonynt fel unrhyw fachgen ifanc, yn chwarae cwffio ac yn hoff o wneud llawer o sŵn, ac roeddynt o hyd yn hapus!

Roeddwn yn eu dysgu i siarad Saesneg am dair awr y dydd ac yn eu helpu a'u gwaith cartref.

Erbyn diwedd y mis, roeddwn yn teimlo fel rhan o'r teulu, a phan ddaeth yr adeg i mi adael, roeddwn bron a chrio!

Yna, roeddwn ar yr awyren yn ôl i Brydain. Cyn mynd i Nepal roeddwn wedi meddwl y byddai dau fis ychydig yn rhy hir ond wrth adael, roeddwn yn teimlo bod yr amser wedi bod yn rhy fyr o lawer!

Byddwn wrth fy modd yn mynd yn ôl rhyw ddiwrnod, i weld y mynaich eto. Dwi'n hiraethu am y lle yn barod! Llio Maddocks


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy