Dwylo fyny pawb sy'n gwylio rhaglenni Iolo Williams neu David Attenborough?
Dwylo fyny pawb fuodd am dro ddoe ac a welodd o leiaf dri aderyn roedd yn ei adnabod?
Mi fyddwn yn falch iawn os dwi'n anghywir, ond dwi'n amau fod yna dipyn mwy ohonom yn perthyn i'r grŵp cyntaf.
Efallai ei fod yn gyfaddefiad trist ond dyma un o'r prif resymau fod gen i gi. Yn y misoedd di-gi, rhwng marw'r hen ast a chael fy nhemptio gan y darn papur efo'r geiriau "yn eisiau, cartref da...", roedd dyddiau yn gallu mynd heibio heb i mi fynd am dro.
Roedd hi'n bwrw, roeddwn i'n brysur, roeddwn i isio
gwylio'r rhaglen yma Roedd y rhestr
esgusodion yn ddi-ddiwedd.
Ond rŵan, unwaith eto, mae'n rhaid, beth bynnag fo'r tywydd, gerdded rhywfaint ddwywaith y dydd. Ac mae fy nghorff yn iachach o'r herwydd.
Tyda ni gyd yn gwybod fod ymarfer corff yn dda i'r iechyd.
Be yda ni llai ymwybodol ohono, neu efallai yn llai tebygol o'i gyfaddef ydi fod y meddwl, yr hwyliau, yr enaid hyd yn oed, yn llawer gwell o fynd allan i'r awyr iach bob dydd.
Ac mewn byd lle mae Sefydliad Iechyd y Byd (yr WHO) yn darogan mai iselder ysbryd fydd ail brif achos afiechyd yn y byd erbyn 2020 mae hynny'n bwysig.
Mae yna
wahaniaeth sylfaenol rhwng ymarfer dan do ac ymarfer tu allan.
Tydi person ddim yn arogli na thail na gwyddfid ar feic yn y "gym" a does yna ddim cen i'w weld na chigfran i'w chlywed ar wal ddringo.
Does dim rhaid mynd ymhell na mynd yn gyflym i elwa o'r profiad. Ond dwi yn grediniol fod rhaid mynd yn rheolaidd.
Wrth gerdded yr un llwybr bob dydd mae rhywun yn sylwi ar ddail yn blaguro a dail yn crino ac yn dod i wybod lle yn y clawdd yda chi'n debygol o weld y dryw bach.
Bora 'ma mi oeddwn i'n gwenu wrth sylwi ar ddanadl poethion ym man gwrych. Mae'r gwanwyn ar ei ffordd.
Ac fel mae person yn dod i adnabod ffrind neu gymar yn araf tros y blynyddoedd felly gyda darn o dir.
Mae rhywun yn dod i'w adnabod, i'w garu ac yn meithrin y gallu i sylwi pan mae rhywbeth o'i le.
Ac os nad ydan ni'n bobl sy'n poeni os oes blodyn y gwynt yn ein coed ni eleni, yn wir yn bobl sy'n gwybod os oes mwy neu lai na llynedd, os ydynt wedi ymestyn ychydig yn nes at yr afon neu wedi
blodeuo chydig yn hwyrach nag arfer, fydda ni byth yn bobl fydd yn wir boeni os bydd blodyn y gwynt yn diflannu am byth.
Ac os nad ydan ni'n poeni am flodyn y gwynt cam
bychan yw peidio poeni am na gwenyn na morfil.
Mae bod yn gyfarwydd a'n tir ein hunain hefyd yn rhoi y gallu i ni uniaethu efo pobl eraill a'u tiroedd hwythau.
Os bu i chi gael picnic ger Bedd Porus neu Domen y Mur wythnos ddiwethaf nid dim ond rhywbeth ar sgrin neu erthygl ar bapur am rhyw bobl od ym mhell i ffwrdd yw clywed fod yna gynlluniau i greu rheilffordd newydd trwy diroedd llwyth y Tuva yn Siberia, a'i gyrru yn syth trwy ganol eu tiroedd claddu sanctaidd.
Am bob math o resymau mae'n bwysig ein
bod yn dianc mor aml a phosib o garchar
pedair wal.
Dwi ddim yn dweud dim byd newydd wrth gwrs.
Llinell gan Dafydd ap Gwilym ydi teitl y darn yma. Cerdd wedi ei sgwennu tua 650 0 flynyddoedd yn ôl.
Sian Northey