| Lladd, yn ddidrugaredd oeddynt, ar y cynlluniau i gyhoeddi papur dyddiol Cymraeg am y tro cyntaf erioed, ac o be ddeallaf, llid unllygeidiog a hunanol ydoedd, yn ofni colli eu cymhorthdal blynyddol a darllenwyr i'r fenter newydd. Oherwydd na welais i mo'r Dinesydd (ac yn annhebygol iawn o wneud hynny fyth rŵan), doeddwn i ddim yn fodlon rhoi sylw ar ffasiwn fyr rybudd. Cicio fy hun wnes i drannoeth o glywed yr hyn a adroddwyd. Roedd yn amlwg na wyddai nifer o'r siaradwyr nemor ddim am gynlluniau cwmni Dyddiol Cyf, a bu llawer o fwydro a malu llechi ar yr awyr. Nid papur newyddion fel y cyfryw ydi Llafar Bro a'r papurau bro eraill: gall gymeryd wythnosau i eitem ymddangos yn y papur gan taw papurau misol ydynt. Gallwn roi sylw manwl i weithgareddau neu ddigwyddiadau lleol, ond ni allwn gystadlu â'r Herald na'r Cambrian News am adrodd buan, ac mae Dail y Post yn gweithredu dros nos! Mae'r papurau bro yn unigryw ac yn werthfawr iawn i nifer o bobl, ac anodd gweld y bydd neb yn rhoi'r gorau i'w prynu yn sgîl cyhoeddi papur dyddiol Cymraeg. Mae'r ddau yn gwbl wahanol; gyda chynnwys hollol wahanol a chynulleidfa hollol wahanol. Er mor anhygoel ac anghredadwy ydi datganiadau a pholisïau Bwrdd yr Iaith yn aml iawn, tybiaf eu bod hwy, hyd yn oed yn sylweddoli hyn, ac na fyddai bygythiad i grantiau'r papurau bro. Mae'r cynlluniau i gyhoeddi papur dyddiol Cymraeg ymysg y pethau mwyaf cyffrous i'w crybwyll ers tro byd, ac mi ddyliwn ni o bawb, mewn ardal gyda thraddodiad teilwng iawn o gyhoeddiadau newyddiadurol, wneud bob ymdrech i'w gefnogi. Wyddoch chi bod pum papur dyddiol ar gael yn y Gatalaneg? Dim ond 60,000 o siaradwyr Romans sydd yn y Swistir bellach, ond eto'i gyd, mae ganddynt bapur dyddiol yn eu mamiaith. Felly hefyd gan 45,000 o siaradwyr y Sorbeg yn yr Almaen. Pam lai yma? Gallwch chwilio am fanylion pellach trwy hwylio i wefan y cwmni ybyd.com neu ffonio 01970 621998 am becyn gwybodaeth. Rhydd i bawb ei farn Rydym yn croesawu unrhyw ddeunydd gan ein darllenwyr, boed yn lun, erthygl neu lythyr, ond daliwn yr hawl i'w golygu a'u cwtogi, eu cadw yn ôl at rifyn diweddarach neu eu gwrthod. Nid yw'r golygydd na chymdeithas Llafar Bro o reidrwydd yn cytuno â chynnwys yr hyn a gyhoeddwn. Cewch gyfrannu ysgrifau neu lythyrau yn ddi-enw os mynnwch, ond rhaid yw rhoi eich manylion yn llawn i'r golygydd. Diolch
 |