'Hen hiraeth y genweiriwr
A'i galwain caer - glan y dwr.'
Dyna fel y canodd y diweddar Monallt o'r Minffordd yn ei gywydd i Cynan y genweiriwr, sef y cyn-Archdderwydd a'r bardd.
Ers wythnosau, os nad mwy, mae yna rai ohonom wedi bod yn awchio am fedru gafael yn yr enwair unwaith eto.
Mae y gobeithion yn uchel a rhyw ffydd dibendraw wedi meddiannu rhai wrth feddwl am y tymor newydd ac wrth ddyheu, a dychmygu a breuddwydio am y cyfle i fwrw eu plu ar wyneb y gwahanol lynnoedd.
A dyma un bardd yn rhoi rhaff i'w dychymyg mewn englyn,
'Leinio pell a dal un pwys, ac wedyn
Ei gydio gan ddeubwys;
Chware a llarp pedwar pwys
A chwffio ag un chwe phwys.'
A fyddai gwell ffordd o roi cychwyn i dymor newydd na gwireddu'r englyn hwn?
NIMFF NEU DDAU
Yn nechrau un y tymor os bydd y tywydd yn ddigon caredig i afael yn yr enwair a mynd i roi tro at ryw un neu'i gilydd o'n llynnoedd, rhaid fydd penderfynu pa blu i'w rhoi ar y blaen-llinyn.
Efallai, ac fel mae hi'n eithaf tebyg y bydd hi, ni welir yr un pryf ar wyneb y dwr na chwaith yr un pysgodyn yn codi. Pob man yn ymddangos yn farwaidd iawn, ac fawr ddim i greu hyder a gobaith ym meddwl ac ym mryd y pysgotwr.
Ond, mae hi'n fwy o her i ddal pysgodyn neu ddau, neu dri efallai, yn nyddiau cynnar y tymor, pan nad oes y nesaf peth i ddirn i weld o blaid y pysgotwr.
Ond mae medru rhoi cychwyn i'r tymor gyda dau neu dri o bysgod yn y gawell yn rhoi rhyw wefr sydd yn cario'r pysgotwr yn llawn hyder yn fwy i mewn i'r tymor.
Ers rhai blynyddoedd, erbyn hyn, pan fyddai'n ddigon ffodus i fedru rhoi cychwyn go gynnar ar y tymor pysgota, a'm meddwl yn troi o gwmpas pa blu i'w defnyddio, mae rhai nimffiau yn dod i flaen y meddwl ar unwaith.
Rhywbeth nad ydym ni fel pysgotwyr ddim bob amser yn ei gofio yw, mai yn y dwr, ar wahanol lefelau, y mae'r pysgodyn yn hel y rhan fwyaf o'i fwyd.
Mewn un llyfr a ddarllenais yn ddiweddar honnir fod 80% o fwyd pysgodyn yn dod o'r dwr. Mae rhai yn ei roi yn uwch na hynny.
Y nimff y bu aelodau y dosbarth cawio sy'n cael ei gynnal yn adeilad y Frigad Dan,y crybwyllwyd amdano yn y rhifyn diwethaf, yn ei gawio oedd Nimff Cynffon Ceiliog Ffesant.
Fedrwn ni ddim hawlio y nimff hwn fel un o Blu Stiniog, wrth gwrs, gan fod y patrwm yn wybyddus drwy'r wlad ac yng ngwledydd tramor.
Fe'i ddefnyddir, er enghraifft, yr ochr arall i'r byd gan bysgotwyr Gwlad y Cwmwl Gwyn, sef Seland Newydd.
Mae o, hefyd yn nimff effeithiol iawn, ac yn un y mae'n werth ei roi ar y blaen-llinyn.
Mae yna rywfaint yn fwy o waith cawio ar nimff nac sydd ar bluen yn gyffredin, gan fod angen rhannu y corff yn gynffon, bol, a brest. Tebyg i hyn yw patrwm y Nimff Cynffon Ceiliog Ffesant.
Bach: Maint 12, coes hir.
Cynffon: 4-6 oddi ar heislen gwar-coch-ceiliog. Cynffon fer.
Bol: Gwneud y bol o 3 neu 4 oddi ar un o blu mawr cynffon ceiliog ffesant, y rhan goch-frown. Cylchau o weiar gopr amdano. Peidio torri yr hyn sy'n weddill o'r cynffon ffesant.
Brest: Mae rhai yn defnyddio y gynffon ceiliog ffesant i wneud y rhan yma, ond ei wneud yn dewach na'r bol.
Ffordd arall o wneud y frest yw defnyddio blewyn coch-ddu.
Rhoi dau neu dri thro o'r weiar gapr am y frest.
Traed: Gwar-coch-ceiliog canolig ei liw. Y traed yn weddol fyr, a rhoi ond dau neu dri thro o'r heislen.
I orffen y nimff, dod a'r darn dros ben ar ôl gwneud y bol, ymlaen dros ran ucha'r frest, fel to ami; ac yna ffurfio pen y nimff.
Yn nechrau un y tymor pysgota mae'n well gin i, os rhywbeth, ddefnyddio y Nimff Bolwyrdd, fel yr ydw i'n ei alw. Daeth i fod mewn canlyniad i ryw dri thymor o arbrofi.
Ers hynny mae o wedi dal yn o gyson ym misoedd Mawrth ac Ebrill, ac ar adegau ym mis Mai, hefyd. Er mae'n well gin i Y Nimff Cynffon Ceiliog Ffesant pan mae'r Cogyn yn dechrau dod i'r golwg ar y dwr. Dyma'i batrwm:
Bach: Maint 12. Kamatsu, Sproat, model B170.
Cynffon: 4-6 blewyn oddi ar heislen o liw olif-brown.
Bol: Blewyn gwyrdd-tywy11 braidd yn ddwl. Rhoi cylchau o weiar aur fain am y bol.
Brest: Cyn gwneud y frest rhoi llafn o bluen dywyll ei lliw yn sownd ar ran ucha coes y bach lle mae'r bol yn darfod. Gwneud y frest o wlad coch-ddu, a'i gwneud yn dewach na'r bol. Rhoi cylchau o weiar aur fain am y frest.
Traed: Gwar-coch-ceiliog o liw canolig. Rhoi ond dau neu dri thro o'r heislen.
I orffen y nimff dod a'r llafn o bluen dywyll ei lliw ymlaen dros y frest, fel to arni. Yna ffurfio pen y nimff.
Y blewyn a ddefnyddir i wneud bol y nimff yma yw darn o linyn y digwyddais i darno amo yn ddamweiniol. Yn aml mae rhywun yn cael deunydd ar gyfer cawio plu o bob math o lefydd, ond i'r cawiwr fod a'i lygad ar ei ysgwydd, fel y dywedir, yn y tymor ac allan o dymor.
Pob hwyl arni, y cawio a'r dal, o hyn ymlaen.