Roeddynt i gyd wedi dod i ddathlu gwaith yr holl blant fu'n rhan o gynllun celf arbennig yn ystod Tachwedd 2008. Roedd gwaith celf o siarcol, collage, pasteli; ac inc a phaent yn gorchuddio waliau'r llyfrgell i gyd, ac arddangoswyd o leiaf un darn o waith gan bob un o'r 92 plentyn fu'n rhan o'r cynllun gwych yma.
Bu plant dosbarth meithrin Ysgol Maenofferen, yr Ysgol Feithrin, plant meithrinfa'r Caban Bach, plant a rhieni grwpiau Chwarae ac Iaith, a grŵp sesiwn stori cynllun Dechrau'n Deg.
Roedd hi'n bleser cael gweld a chlywed ymateb y plant, wrth weld eu gwaith wedi ei arddangos.
A balchder eu rhieni, wrth iddynt hel atgofion o'r profiadau a gawsant yn ystod y cynllun celf.
Roedd Catrin Williams, yr artist fu'n gweithio efo'r plant, hefyd yn bresennol yn y dathlu, a chafodd y rhieni a'r plant y cyfle eto i rannu profiadau a hi.
Disgrifiwyd Catrin fel yr artist abstract gorau yng Nghymru gan Kyffin Williams, ac yn sicr llwyddodd i ysgogi diddordeb mawr ymysg y plant, a'u hannog i gynhynchu darnau lliwgar a chreadigol iawn.
Prif gynnynch y cynllun oedd murlun newydd sydd bellach wedi ei osod mewn man amlwg iawn ar y stryd fawr, ac mi gafodd pawb y cyfle cyntaf i weld y gwaith gorffenedig yn ystod y dathliadau.
Am hanner dydd cerddodd pawb o'r llyfrgell i faes parcio'r Co-op, i ddadorchuddio'r murlun gwych a beintiwyd gan y plant.
Croesawyd y dorf gan ddrymio Samba Stiniog, a swynwyd pawb gan eu set gwych.
Anerchodd Leisa Williams, Cydlynydd Chwarae ac Iaith, y dorf gan ddiolch i bawb fu'n gymorth iddi wrth drefnu a gweithredu'r cynllun celf, yn gydweithwyr, staff y llyfrgell, y plant a'i rhieni.
Diolchodd Catrin Williams, hefyd i'r gynulleidfa, a datgan ei balchder o fod wedi gweithio hefo plant bach yr ardal, yn ogystal â phlant Ysgol y Moelwyn, yn gynharach yn 2008 r y murlun arall sydd yn y Blaenau.
Dadorchuddiwyd y plac gan Gadeirydd y Cyngor Tref,
Margaretta Young Jones, a datganodd hithau ei balchder a'i
phleser o weld gwaith plant yr ardal yn cael ei ddathlu.
Fe welwch y murlun gan y plant bach ar dalcen adeilad
iAlwena Jones, y gyfreithwraig yngnghanol y dref.
Diolch iddi hi am ei pharodrwydd i arddangos y gwaith ar ei heiddo.
Arianwyd y cynllun celf gan grant Chwarae ac Iaith, dan
ofa1 Cyngor Gwynedd. Rhan o fenter Asiantaeth Sgiliau
Sy1faenol Cymru Y Cynulliad, oedd y cynllun.
Mae hi'n braf gallu dathlu bod cymaint o asiantaethau lleol
a sirol yn cydweithio yn Y Blaenau.
Gan i'r plant uwchradd ac oed meithrin fwynhau cynlluniau ce1f yn ddiweddar, braf
fyddai gallu gweld darn o gelf gyhoeddus gan blant oed
cynradd y dref yn addurno'r stryd fawr yn y dyfodol hefyd.
Lluniau gan Maldwyn Williams