Dibynnwn yn drwm ar yr hyn a gawn o hen lyfrau'n bennaf, ond ambell dro cawn gyfraniad anhygoel gan un o'n gwrandawyr. Dyma hanesyn a 'sgrifennwyd gan y ddiweddar Mrs Prydwen Boyer, rywbryd tua 1980.
Fei'i cofir gan lawer yn byw yng Ngholeg Bala-Bangor lle'r oedd ei gwr yn Brifathro, ac yna ym Mharc Menai. Bu hi farw ryw bum neu chwe blynedd yn ôl yn Llanrwst. Dyma'r hanes, yn ei geiriau ei hun.
"Pan oedd fy nain, Mary Huws, yn eneth ifanc yn saithdegau cynnar y ganrif ddiwethaf roedd yn byw yn Naear Lwynog, tyddyn unig ar y mynydd uwchben pentref Dwygyfylchi. Arferai'r teulu fynd i'r capel ym Mhenmaenan, yr ochr arall i'r plwy.
Un nos olau leuad aeth fy nain ar ei phen ei hunan i'r capel, ac fel arfer mynd i dy ffrindiau am swper ac yna troi tuag adref a'i ffrind yn ei hebrwng fel arfer.
Roedd y ddwy ferch yn cychwyn y daith yn hapus ddigon ac yn hollol ddi-ofn gan iddynt gerdded y ffordd honno ddwsinau o weithiau o'r blaen.
Ar ôl gadael Penmaenan a cherdded drwy Bant yr Afon (stryd siopa Penmaenmawr) dyma droi am yr hen lôn bost i Gonwy sydd yn mynd drwy fwlch y Sychnant.
Ar ôl dringo allt serth daethant at ffordd wastad. Roedd y lleuad yn llawn ac oedd yn olau fel canol dydd. Wedi cerdded am dipyn daethpwyd at le lle roedd coed tal trwchus yn tyfu bob ochr i'r ffordd. Roedd hi'n dywyll fel y fagddu. Aeth y ddwy yn ddistaw a dechrau teimlo'n ofnus.
Yn sydyn clywsant gloncian cadwyni'n llusgo ar hyd y ffordd. Troesant ac yna sefyll yn stond. Gwelsant rywbeth tebyg i gi mawr du, anferth o gi mawr du a llygaid fel soseri o dân, yn eu dilyn. Ni fedrent symud llaw na throed.
Roedd yr anghenfil yn dod yn nes. Doedd dim swn o gwbl ond swn cloncian y cadwyni.
Yna gyda'i gilydd rhoesant sgrech a dechrau rhedeg nerth eu traed yr holl ffordd i Ddaear Lwynog. Roeddent at lewygu pan gyraeddasant y ty. Bu raid i dad fy nain gerdded yr holl ffordd i Benmaenan i egluro beth oedd wedi digwydd. Ni chymerai ffrind fy nain ffortiwn am fynd yn ôl y noson honno, a gorfod i'w theulu ddod i'w chyrchu drannoeth.
Arferai fy nain egluro mai yn ymyl gatiau Plas Tan y Foel y gwelwyd y ddrychiolaeth. Ni wn ba bryd yr adeiladwyd y Plas. Efallai mai er mwyn imi wybod ble yn union y digwyddodd y peth y cyfeiriodd at y plas.
Diddorol, ynte? A oes gennych chi hanesyn gwerth ei adrodd? Clywais am rywun yn gyrru i lawr ffordd unig a throellog Nant y Garth, ger Bangor, wedi iddi dywyllu. Yn sydyn gwelodd wraig ar ganol y ffordd o'i flaen, ac er brecio'n ffyrnig ni fu modd osgoi mynd drosti. Stopiodd a rhedeg yn ôl yn chwys domen: ond nid oedd yr un corff yno, na byw na marw. Ai hi oedd yr enwog 'ladi wen' sy'n cerdded Nant y Garth yn ôl y chwedlau?
Clywais gan gyfaill am gyd-athro iddo yn Ysgol Tryfan, Bangor, ryw ugain mlynedd yn ôl, a oedd yn gweithio'n hwyr yn yr ysgol. Clywodd swn traed rhywun yn cerdded ar hyd y coridor. Brathodd ei ben drwy'r drws i weld pwy ydoedd ond nid oedd neb yno. Dro arall, clywodd swn traed eto, a'r tro hwn bu mewn pryd i weld gwraig ddieithr iddo'n cerdded ar hyd y coridor ac yna'n diflannu. Ni fu fawr o sôn am hyn, meddai fy nghyfaill, rhag dychryn plant rhag dod i'r ysgol. Yn hytrach, tybed na fuasai'n debycach o ddenu'r plantos, y dyddiau hyn, sydd mor hoff o ddychrynfeydd Nos G'langaeaf? Pa un bynnag, eu coelio neu beidio, os oes gennych straeon difyr, dewch â nhw.
Dr. Bruce Griffiths